Ynysybŵl

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cofadail rhyfel Ynysybŵl.

Pentref mawr ym mwrdeisdref sirol Rhondda Cynon Taf yw Ynysybŵl, weithiau Ynys-y-bŵl (Cyfeirnod OS: ST0594). Saif tua 20 milltir i'r gogledd-ddwyrain o ddinas Caerdydd, bedair milltir i'r gogledd o Bontypridd a 10 milltir i'r de o Ferthyr Tudful. Mae Nant Clydach yn llifo heibio iddo.

Hyd y 1880au, roedd Ynysybŵl yn ardal amaethyddol. Agorwyd Glofa Lady Winsor yn 1886, a dechreuodd y pentref dyfu o'i hamgylch. Caewyd y lofa yma yn 1988. Ceir côr a chlwb rygbi yma.

Cynhelir Ras Nos Galan yma bob blwyddyn, i goffáu Guto Nyth Brân.

Y sillafiad cyntaf ysgrifenedig ydy "Ynys y Bool", a hynny mewn dogfen Saesneg yn 1738. Gair Cymraeg ydy "bŵl" sy'n golygu "powlen" - sydd mae'n bosib yn cyfeirio at siâp crwn y dyffryn.

Enwogion [golygu]


CymruRhonddaCynonTaf.png Eginyn erthygl sydd uchod am Rondda Cynon Taf. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato