Abercynon

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Gwesty'r Thorn, Abercynon

Pentref bychan a chymuned yng Nghwm Cynon, yn Rhondda Cynon Taf, de Cymru yw Abercynon. Mae'n gorwedd ar gymer afon Cynon ac afon Taf, tua phymtheg milltir i'r gogledd-orllewin o Gaerdydd.

Ceir dwy orsaf drenau yno, un ar y rheilffordd o Gaerdydd i Aberdâr, a'r llall ar reilffordd Caerdydd-Merthyr Tudful.

Abercynon oedd pen y daith reilffordd stêm gyntaf yn hanes y byd pan yrrodd Richard Trevithick injan stêm, ar 21 Chwefror 1804, a oedd yn tynnu haearn a theithwyr, o waith haearn Penydarren ym Merthyr Tudful i fasn Camlas Morgannwg yn Abercynon. Ceir cofebion i'r daith hanesyddol ym Mhenydarren ac yn Abercynon.

Datblygodd y pentref fel canolfan cludiant ar gyffordd ar Gamlas Morgannwg ac ar fan cyffwrdd dwy gangen rheilffordd Cwm Taf. "Navigation" oedd enw'r pentref am gyfnod. Suddwyd pwll glo yno ym 1889 a ymunwyd ag Ynysybwl ac a adnabuwyd hyd ei gau yn yr wythdegau fel Glofa Abercynon Lady Windsor.

Ganwyd y paffiwr Dai Dower yno. Mae Plasty Llancaiach Fawr heb fod ymhell o'r pentref.

Mae Abercynon yn gartref i Westy'r Thorn, a ddefnyddiwyd gan Tom Jones i ymarfer ar gyfer ei berfformiadau.

[golygu] Dolenni allanol


Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill