Llanilltud Faerdref

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref a chymuned ym mwrdeisdref sirol Rhondda Cynon Taf, de Cymru, yw Llanilltud Faerdref (Saesneg: Llantwit Fardre) (Cyfeirnod OS: ST075848). Saif ychydig i'r de o dref Pontypridd. Heblaw pentref Llanilltud Faerdref ei hun, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Pentre'r Eglwys (Gartholwg), Efail Isaf a Thonteg. Roedd poblogaeth y gymuned yn 13,993 yn 2001.

Ceir gweddillion castell mwnt a beili o'r 12fed ganrif, Tomen y Clawdd, yn y gymuned, gerllaw Tonteg. Dechreuodd diwydiant ddatblygu yma tua diwedd y 17eg ganrif, ond erbyn hyn mae cyfran helaeth o'r boblogaeth yn teithio i Gaerdydd. Mae'n cynnwys rhan o Stad Ddiwydiannol Trefforest.

Sant o'r 6ed ganrif oedd Illtud ac mae nifer o eglwysi yn ne Cymru wedi eu henwi ar ei ôl. Roedd ffynnon yma yn y 12ed ganrif, wedi ei enwi ar ei ôl (y fonte Sancti Ylthuti) yn Nihewyd tua milltir i'r de o'r eglwys.


CymruRhonddaCynonTaf.png Eginyn erthygl sydd uchod am Rondda Cynon Taf. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato