Llwydcoed

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfesurynnau: 51°44′00″N 3°28′00″W / 51.733333°N 3.466667°W / 51.733333; -3.466667

Llwydcoed
Church in Llwydcoed - geograph.org.uk - 604804.jpg
"Yr Eglwys Goch" (Eglwys St Siams) yn Llwydcoed
Llwydcoed is located in Cymru
Llwydcoed

Llwydcoed Cymru
Sir Rhondda Cynon Tâf
Sir seremonïol Morganwg Ganol
Gwlad Cymru
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Yr Heddlu
Tân
Ambiwlans Cymru
Senedd yr Undeb Ewropeaidd Cymru
Senedd y DU Cwm Cynon
Rhestr llefydd: y DU • Cymru •
Canol Llwydcoed.
Golygfa o Lwydcoed i gyfeiriad Hirwaun.

Mae Llwydcoed (hefyd Llwytgoed) yn bentref a chymuned bychain wedi'i lleoli yng ngogledd Cwm Cynon, ger tref Aberdâr, ym meistref Rhondda Cynon Tâf, Cymru. Roedd yn lleoliad bwysig o ran y diwylliant Haearn yn y cwm, gan fod gweithfeydd haearn Aberdâr wedi'u hagor yno ym 1800. Mae'r rheilffordd yn dal i gludo glo o waith glo agored Hirwaun (a adnabyddir gynt fel 'Glofa'r Tŵr) yn rhedeg trwy Llwydcoed.

Hanes[golygu]

Cyn dyfodiad y chwyldro diwydianol yn Llwydcoed, cymuned amaethyddol oedd yn bodoli yno fel gweddill Cwm Cynon, a chymoedd eraill De Cymru yn ystod y cyfnod yma. Pan gyrhaeddodd y chwyldro diwydianol roedd datblygiad cychwynnol y pentref wedi'i leoli o amgylch ardal Tregibbon, sef y man lle, ym 1801, fe adeiladodd Thomas ap Shencin ap Gibbon o Fferm Fforchaman lawer o dai gan gynnwys 'Rhes y Glöwr', 'Rhes y Sefydlwyr' a 'Thai'r Scales'. Mae enwau'r strydoedd hyn yn olrhain eu gwreiddiau cynnar; roedd teulu'r Scales yn un o sefydlwyr y gwaith haearn, ac yn dal yn bartneriaid yno tan 1846.

Yn ystod ail hanner y 19eg ganrif cafwyd twf yn sgîl datblygiad cyflym y diwydiant glo yn yr ardal. Agorwyd Gwaith glo Dulas gan Matthew Wayne o waith haearn y Gadlys ym 1840, ac fe agorwyd gwaith glo Ysguborwen gan Samuel Thomas a Thomas Joseph ym 1849. Ymhlith y tai a godwyd yn ystod y cyfnod hwn y mae: 'Plas Moriah', 'Teras Horeb', a 'Plas Llwyd.' Fe adeiladwyd 'Rhes yr Arddangosfa' ym 1851 ac fe'i enwir ar ôl yr Arddangosfa Mawr a gynhaliwyd yn Mhalas Grisial Llundain y flwyddyn hono.

Roedd wyth tafarn yn Llwydcoed yn ystod y cyfnod hwn megis: 'Yr Iarll Llwyd', 'Y Llwynog a'r Helgwn', 'Y Fuwch Goch', 'Tŷ Cornel', 'Y Masons', 'Tafarn y Glöwr', 'Tafarn Dinefwr', a'r 'Croes Bychan'. Yr adeg honno, cannwyd y gloch olaf ganol nos, a disgrifia traethodwr lleol am natur dymhestlog y miri: "Dywedir fod mwy o gwrw wedi'i golli (gwastraffu) pan fu'r ffwrnesi, y gweithfeydd glo, a'r gweithfeydd haearn yn cael eu gweithio (yn enwedig ar ddechrau'r mis, ac ar Nos Sadwrn y tâl), na sy'n cael eu yfed yn nhafarndau Llwydcoed y dydd hwn" [1] Mae tafarnau 'Y Fuwch Goch' a 'Thŷ Cornel' yn dal yn agored heddiw.[angen ffynhonnell]

Tirnodau[golygu]

Mae cofgolofn rhyfel ar ffurf obelisg i'w chael yn y parc lleol. Datguddiwyd y gofgolofn ym 1921. Mae eglwys Sant James yn llwydcoed, ac fe llysenwir yr eglwys yn 'Yr Eglwys Goch' am ei bod wedi'i ei hadeiladu o friciau coch. Mae yna ganolfan gymunedol hefyd yn Llwydcoed.

Trafnidiaeth[golygu]

Fe gyrhaeddodd brif Reilffordd Cwm Nedd gyda llinell o Gastell Nedd i Ferthyr Tydfil ym 1853, pan agorwyd gorsaf rheilffordd Llwydcoed yr un flwyddyn. Fe'i trosglwyddwyd i Great Western Railway ym 1923, ac fe barhaodd y linell tan i Arglwydd Beeching ei chau ym 1963. Gellir dal i weld ôl y cledrau yn Llwydcoed hyd heddiw.

Yr unig drafnidiaeth cyhoeddus trwy Lwydcoed (2012) oedd bws rhif 6 a redwyd gan gwmni Stagecoach. Mae'r gwasanaeth yn cychwyn yng ngorsaf canolog Aberdâr, ac yn parahau drwy Drecynon, trwy Lwydcoed, ac yna'n mynd ymlaen i Ferthyr.

Addysg[golygu]

Mae yna ysgol gynradd leol yn Llwydcoed o'r enw "Llwydcoed Primary". Mae'r ysgol yn bwydo ysgolion uwchradd 'Ysgol Sant Ioan' (Ysgol yr Eglwys yng Nghymru), 'Ysgol Uwchradd Aberdâr' (Ysgol i fechgyn), ac 'Ysgol y Merched Aberdâr'. Mae'r ysgol yn darparu ei haddysg drwy gyfrwng y Saesneg (a Chymraeg fel ail iaith). Mae'n rhaid i blant sydd am gael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg fynychu Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr, sydd wedi'i lleoli yng Nghwmdâr.

Chwaraeon[golygu]

Mae tîm pêl droed yn chwarae ym mhentref Llwydcoed sef 'C.P.D.A Llwydcoed' sy'n chwarae o fewn Adran Dau o Gynghrair Pêl-droed Cymru. Sefydlwyd y clwb ym 1931 gyda'r enw 'Lles Llwydcoed' (Llwydcoed Welfare) gan y gymuned glofäol leol. Mae'r tîm yn gwisgo crys streipiog du a gwyn, trowsus byr du, a sannau du. Maent yn chwarae eu gemau cartref ar Y Parc Lles yn Llwydcoed.

Cyfrifiad 2011[golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4][5]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llwydcoed (pob oed) (1,302)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llwydcoed) (183)
  
14.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llwydcoed) (1151)
  
88.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Llwydcoed) (225)
  
40.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Pobl o Lwydgoed[golygu]

Ganed yr actor Ioan Gruffudd yn y pentref ar 6 Hydref 1963.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. A Glance at the History of Llwydcoed wedi'i gyfieithu gan D Williams a D L Davies.
  2. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12. . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  3. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  4. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013

Dolenni allanol[golygu]