De Cymru

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
De Cymru
Mae de-ddwyrain Cymru yn ailgyfeirio i'r erthygl hon.

Rhanbarth answyddogol mwyaf deheuol Cymru yw De Cymru, sy'n ffinio â Chanolbarth Cymru i'r gogledd, Lloegr i'r dwyrain, Môr Hafren i'r de a Gorllewin Cymru i'r gorllewin. Mae'n cynnwys cymoedd De Cymru a Bannau Brycheiniog, a'r afonydd Wysg, Ogwr, a Thâf.

Diffinio'r rhanbarth[golygu]

Yn hanesyddol, bu'r fwyaf o De Cymru yn rhan o deyrnasoedd Gwent a Morgannwg. Heddiw, mae'n cynnwys siroedd Merthyr Tudful, Caerffili, Blaenau Gwent, Torfaen, Mynwy, Casnewydd, Caerdydd, Bro Morgannwg, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, a Chastell-nedd Port Talbot.

Er ei bod yn arfer defnyddio'r term 'De Cymru' am yr ardal hon, mewn termau daearyddol pur mae de-ddwyrain Cymru yn gywirach, gyda 'De Cymru' yn enw priodol am dde-orllewin Cymru ("Gorllewin Cymru") a'r de-ddwyrain gyda'i gilydd. Yn ôl y drefn honno, rhennir Cymru yn dri rhanbarth, sef y Gogledd, y Canolbarth a'r De.

Unedau gweinyddol, hen a newydd[golygu]

Siroedd presennol[golygu]

Creuwyd y siroedd, bwrdeistrefi sirol a dinasoedd sirol presennol fel awdurdodau unedol yn 1996.

Siroedd cadwedig[golygu]

Dyma'r siroedd a greuwyd yn 1974. Ers 1996 maent yn 'siroedd cadwedig' yn unig.

Siroedd cyn 1974[golygu]

Creuwyd y siroedd hyn dan y drefn Seisnig rhwng 1284 a 1536. Cawsont eu dileu neu eu hail-lunio yn 1974.

  • Sir Forgannwg (heb ran orllewinol yr hen sir, er bod tuedd i gynnwys Sir Forgannwg gyfan yn 'Ne Cymru')
  • Sir Fynwy (llawer mwy sylweddol na'r sir bresennol o'r un enw, yn cyfateb yn fras i Went)

Gweler hefyd[golygu]


Rhanbarthau Cymru Rhanbarthau Cymru
Canolbarth | De | Gogledd | Gorllewin


StubburWales.png Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.