De Cymru Newydd
Oddi ar Wicipedia
Mae De Cymru Newydd[1] yn un o daleithiau Awstralia. Fe'i lleolir yn ne-ddwyrain y wlad ar lan y Cefnfor Tawel. Mae ganddi arwynebedd tir o 801,428 km². Prifddinas y dalaith yw Sydney.
Mae tair cadwyn o fynyddoedd - Cadwyn Great Dividing, Mynyddoedd Snowy a rhan o'r Alpau Awstralaidd - yn gorwedd rhwng gwastatiroedd sylweddol yn y gorllewin a'r stribyn cul arfordirol lle ceir y mwyafrif o'r boblogaeth (yn arbennig o gwmpas Sidney). Ei phrif afonydd yw Afon Murray, Afon Darling ac Afon Murrumbidgee.
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Jones, Gareth (gol.). Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999), t. 110.
|
Taleithiau a thiriogaethau Awstralia |
|
|---|---|
|
De Awstralia | De Cymru Newydd | Gorllewin Awstralia | Queensland | Tasmania | Tiriogaeth y Gogledd | Tiriogaeth Prifddinas Awstralia | Victoria |
|