Alpau Awstralaidd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Mynydd Feathertop o gopa Mynydd Hotham

Mynyddoedd yn ne-ddwyrain Awstralia yw'r Alpau Awstralaidd (Saesneg: Australian Alps). Maent yn ymestyn dros ffiniau taleithiau De Cymru Newydd a Victoria, a Thiriogaeth Prifddinas Awstralia. Yma y ceir yr unig gopaon yn Awstralia dros 2,000 medr (6,500 troedfedd).

Maent yn rhan o'r Wahanfa Fawr, cyfres o fynyddoedd sy'n ymestyn am tua 3,000 km o ogledd Queensland i Victoria. Mae'r Snowy Mountains yn rhan o'r Alpau Awstralaidd.

Australia globe stub.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Awstralia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.