Afon Wysg

Oddi ar Wicipedia
Afon Wysg
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Fynwy, Cymru Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.87142°N 3.21356°W Edit this on Wikidata
AberMôr Hafren Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Llwyd, Afon Tarell, Afon Clydach, Sir Fynwy, Afon Gafenni, Afon Ebwy Edit this on Wikidata
Hyd112 cilometr Edit this on Wikidata
Map
Gweler hefyd: Afon Wysg (Dyfnaint).

Afon sy'n llifo o lethrau gogleddol y Mynydd Du yn Sir Gaerfyrddin i foryd Afon Hafren ger Casnewydd yw Afon Wysg.

Mae'r afon yn tarddu ychydig i'r gogledd o gopaon Bannau Sir Gâr ac yna'n rhedeg i lawr yn syrth i gronfa dŵr Llyn Wysg. Mae'n rhedeg i lawr i gyfeiriad y dwyrain o'r llyn trwy bentref Pontsenni i Aberhonddu. Rhwng y llyn ac Aberhonddu mae sawl afon llai yn ymuno â hi, fel Afon Crai, Afon Senni ac Afon Tarell o'r de ac Afon Brân o'r gogledd.

O Aberhonddu try'r afon i'r de-ddwyrain i lifo trwy Llangynidr a phasio Crughywel a Glangrwyne, lle mae ffrwd Afon Grwyne Fawr yn ymuno â hi, i'r Fenni. O'r dref honno mae cwrs Afon Wysg yn troi i'r de ac mae'r afon yn rhedeg trwy Ddyffryn Wysg yn iseldiroedd Gwent, gan basio trwy Brynbuga, Caerllion a Chasnewydd i aberu yn moryd Afon Hafren.

Aber Afon Wysg yw'r dyfnaf ym Mhrydain ac mae ganddi'r gwahaniaeth mwyaf rhwng ei llanw a'i thrai nag unman yn y byd ac eithrio Bae Fundy (Bay of Fundy) yng Nghanada.

Y fferi unigryw (Pont Gludo Casnewydd) dros Afon Wysg yng Nghasnewydd

Safleoedd cadwraeth[golygu | golygu cod]

Ceir ambell Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig sy'n gysylltiedig a'r afon e.e. Afon Wysg (isafonydd).