Afon Hafren

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Tarddle Afon Hafren ar lethrau Pumlumon.
Pont Hafren dros Afon Hafren rhwng Cymru a Lloegr

Afon hwyaf ar Ynys Prydain yw Afon Hafren (Saesneg River Severn), 354 km (219 milltir) o hyd. Mae'n tarddu yng nghanolbarth Cymru cyn llifo trwy orllewin Lloegr am ran o'i chwrs a llifo i Fôr Hafren rhwng Caerdydd a Weston Super Mare.

Mae Afon Hafren yn tarddu ar lethrau gogleddol Pumlumon ger Llanidloes, ar uchder o 610 medr. Nid yw tarddle Afon Gwy ymhell, ar lethrau deheuol Pumlumon. Mae'r afon yn llifo tua'r de-ddwyrain trwy Goedwig Hafren. Ychydig cyn cyrraedd Llanidloes mae Afon Dulas yn ymuno â hi ac yna yn nhref Llanidloes ei hun mae Afon Clywedog yn ymuno. O Lanidloes mae'r afon yn troi tua'r gogledd-ddwyrain heibio Llandinam a Chaersws, lle mae Afon Carno yn ymuno. Mae'n llifo trwy'r Drenewydd a heibio Castell Dolforwyn ac Aber-miwl ac yna trwy'r Trallwng. Am ychydig filltiroedd mae'r afon yn ffurfio'r ffin rhwng Cymru a Lloegr, yna mae'n croesi i Loegr, lle mae'n parhau tua'r dwyrain i lifo trwy Amwythig. Mae wedyn yn llifo heibio Ironbridge a Bridgnorth, Stourport-on-Severn ac yna Caerwrangon, lle mae Afon Tefeidiad yn ymuno â hi ychydig i'r de o'r ddinas, a Tewkesbury. Mae'n llifo tua'r de heibio Caerloyw cyn cyrraedd yr aber ym Môr Hafren, lle mae'n gwahanu Cymru a Lloegr.

Mae sawl pont nodedig, yn enwedig pontydd haearn Llandinam ac Ironbridge, Pont Hafren ac Ail Groesfan Hafren, a thwnnel rheilffordd yn croesi'r afon.


Globe stub.svg Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.