Aber-miwl

Oddi ar Wicipedia
Aber-miwl
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
GerllawAfon Hafren Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.5428°N 3.2366°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO162947 Edit this on Wikidata
Cod postSY15 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRussell George (Ceidwadwyr)
AS/auCraig Williams (Ceidwadwr)
Map

Pentref bach gwledig yng nghymuned Llandysul, Powys, Cymru, yw Aber-miwl[1] (Saesneg: Abermule).[2] Fe'i lleolir tua thair milltir i'r gogledd-ddwyrain o'r Drenewydd ar lan ddwyreiniol Afon Hafren, rhwng y dref honno a Threfaldwyn. Mae'r A483 yn mynd heibio i'r pentref a'r B4386 yn mynd drwyddo.

Fe'i gelwir yn "Aber-miwl" am fod Afon Miwl, sy'n codi yn y bryniau ar y ffin i'r de o'r Drenewydd, yn aberu yn Afon Hafren ar ôl pasio drwy'r pentref.

Ceir un ysgol gynradd yn y pentref (Ysgol Gynradd Aber-miwl; Ysgol Gynradd Dolforwyn cyn hynny), siop y pentref, maes carafanau, tai newydd a dwy dafarn.

Lladdwyd 17 o deithwyr mewn damwain trên ddifrifol ger y pentref ar 26 Ionawr 1921.

Yn ymyl y pentref saif olion Castell Dolforwyn, a godwyd gan y tywysog Llywelyn ap Gruffudd ym 1273.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Craig Williams (Ceidwadwr).[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 29 Rhagfyr 2021
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU