Llanfyllin

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llanfyllin
Llanfyllin memorial 340x255.jpg
Canol y dref
Poblogaeth 1,407 
Sir Powys
Sir seremonïol Maldwyn
Gwlad Cymru
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Tref bost LLANFYLLIN
Yr Heddlu
Tân
Ambiwlans Cymru
Senedd yr Undeb Ewropeaidd Cymru
Senedd y DU Trefaldwyn
Rhestr llefydd: y DU • Cymru •

Tref fechan a chymuned yng ngogledd Powys yw Llanfyllin (Loudspeaker.svg ynganiad ?/i ), ond hi hefyd yw'r dref fwyaf yng ngogledd Sir Drefaldwyn. Mae'n gorwedd ym masn afon Cain i'r de o fryniau'r Berwyn, ar y briffordd A490 yn ardal Maldwyn. Mae wedi'i lleoli 14 milltir (23 km) i'r de-orllewin o Groesoswallt a 25 milltir (24 km) o Drefaldwyn. Llifa dwy afon i lawr y dyffryn: afonydd Cain ac Abel, gan ymuno â'r Efyrnwy yn Llansantffraid-ym-Mechain.[1]

Mae'n blwyf eglwysig a fu'n blwyf sifil am gyfnod hefyd ac yn adnabyddus am ei ffynnon sanctaidd, a gysegrir i Sant Myllin. Yng nghyfrifiad 2011 roedd y boblogaeth yn 1,532, gyda dim ond 41.4% wedi'u geni yng Nghymru.

Hanes[golygu]

Bu'n dref farchnad ers canrifoedd, mae'n debyg oherwydd ei lleoliad strategol - rhwng yr Amwythig a'r Bala. Gerllaw, tua milltir a hanner o Lanfyllin saif Castell Bodyddon, un o gestyll tywysogion Powys, castell mwnt a beili pur sylweddol a elwir hefyd yn 'Domen yr Allt'. Ond ceir olion hŷn na hyn o'r Oes Efydd a ffordd Rufeinig sy'n nadreddu yr holl fordd i Glawdd Offa.[2] Hen domen, neu fwnt, o'r Oesoedd Canol ydy Tomen y Cefnlloer (neu 'Domen Foel Fochras') c.27-28m mewn diametr a 4.2m o uchder ac mae olion y domen i'w gweld heddiw cyfeiriad grid SJ118225.[3]

Marchnad yn Llanfyllin tua 1885

Mae yma ffynnon, "Ffynnon Coed y Llanin", a gysegrwyd i Sant Myllin (Gwyddel o'r enw 'Molling', mae'n debyg), ac eglwys a godwyd yn wreiddiol yn y 7fed ganrif. Arferid bedyddio pobl yn y ffynnon. Mae'r eglwys bresennol, fodd bynnag, yn eglwys frics a godwyd yn 1706 ac sy'n ddwywaith maint yr hen eglwys. Rheithor yma oedd yr Esgob William Morgan (1545 - 10 Medi 1604). Codwyd un o gapeli cyntaf yr Annibynwyr, Capel Pen-dref, yma yn Llanfyllin yn 1701, ond fe'i llosgwyd gan y Jacobitiaid yn 1715 a chodwyd yr adeilad presennol ddwy flynedd yn ddiweddarach.

Dwy dref drwy Gymru gyfan a dderbyniodd siarter gan y tywysogion Cymreig: Y Trallwng a Llanfyllin, a dderbyniodd ei statws yn 1293[4] (1294 yn ôl Gwyddoniadur Cymru) gan Llywelyn ap Gruffudd ap Gwenwynwyn, Arglwydd Mechain Uwch y Coed a Mochnant Uwch Rhaeadr,[5] yn nheyrnasiad Edward I. Cadarnhawyd y siartr gan Edward de Charlton, dan Harry V, a ddiffiniodd Llanfyllin yn dref farchnad. Yn 1644, treuliodd Charles I y diwrnod yma, ar ei ffordd i'r Brithdir ac yna ymlaen i Gastell y Waun.[1]

Ceir sawl tŷ o ddiddoredeb hanesyddol yn yr ardal. Yn Llanfyllin ei hun ceir 'Manor House', gyda'i bump bae ffenestr, a godwyd yn 1737. I'r gogledd-ddwyrain o'r dref saif Neuadd Bodfach, hen gartref Teulu Kyffin. Codwyd y neuadd yn wreiddiol wedi i Einion Efell etifeddu'r ystâd yn 1160 oddi wrth ei dad Madog ap Maredydd, Tywysog Powys. Codwyd y tŷ gwreiddiol wedi i'r hen fwnt a beili ('Tomen yr Allt') gael ei ddymchwel yn 1256.

Ceir stori garu anghyffredin yn yr ardal, yn dilyn Rhyfeloedd Napoleon (rhwng 1804 a 1815) pan ddaeth carcharor rhyfel Ffrengig, Pierre Augeraud, i Lanfyllin a syrthio dros ei ben a'i glustiau â merch y rheithor lleol, Mary Williams. Mewn ystafell gyferbyn a'r eglwys frics (uwch ben y fferyllfa heddiw), ceir ystafell gyda 13 o luniau rhamantaidd a beintiwyd tua 1812 gan Pierre ac sy'n gorchuddio'r waliau'n gyfangwbwl. Roedd wedi'i ddal yn 1812 yn Badajoz, Sbaen yn un o 148 o swyddogion a ddygwyd i Lanfyllin, fel carcharorion rhyfel; roedd yn 25 mlwydd oed, yn dal gyda gwallt brown a llygaid glas.[6] Pan glywodd tad Mary am y garwriaeth sicrahodd alltudiad Pierre, ac ni chlywyd rhagor amdano. Bu farw'r rheithor, ond yn hydref 1814 daeth cnoc ar ddrws y tŷ, a dyna lle safai Pierre - wedi dychwelyd fel Capten, ar ôl iddo dderbyn y Légion d'Honneur gan Napoleon ei hun. Gyda sêl bendith ei mam, aeth y ddau i Ffrainc i fyw. Yn 1908 daeth Ffrancwr i Lanfyllin ar ymweliad - William Augeraud, gor-ŵyr Pierre.

Pobl o Lanfyllin[golygu]

  • Edward Davies (Iolo Trefaldwyn) (1819-1887). Bardd ac eisteddfodwr.
  • O. V. S. Bulleid (1882– 251970). Treuliodd y peiriannydd rheilffordd ran o'i blentyndod yn y dref.
  • Ann Griffiths, Dolwar Fach; yma yn Llanfyllin y cafodd Ann ei throedigaeth grefyddol.

Cyfrifiad 2011[golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[7][8][9]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanfyllin (pob oed) (1,532)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanfyllin) (505)
  
34.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanfyllin) (635)
  
41.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanfyllin) (244)
  
36.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
5%

Cyfeiriadau[golygu]

  1. 1.0 1.1 "Llanfyllin". The National Gazetteer. 1868. http://www.genuki.org.uk/big/wal/MGY/Llanfyllin/Gaz1868.html. Retrieved 2012-02-11.
  2. Roman Britain Organisation. "Mediomanum?" at Roman Britain. 2010.
  3. Gwefan Coflein; adalwyd 16 Ionawr 2015
  4. http://www.mathrafal.org/parishes/myllin.htm mathrafal.org; gwefan yr Eglwys leol
  5. http://brecon-leisurecentre.powys.gov.uk/uploads/media/M_B_LF_bi_01.pdf Cofnodion Archifdy Cyngor Sir Powys;] adalwyd 16 Ionawr 2015
  6. www.secretdiner.co.uk; Ffeil Word; adalwyd 16 Ionawr 2015
  7. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Retrieved 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  8. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  9. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.