Llangedwyn

Oddi ar Wicipedia
Llangedwyn
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth402 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd2,521.83 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.8083°N 3.2105°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000308 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRussell George (Ceidwadwyr)
AS/auCraig Williams (Ceidwadwr)
Map

Pentref a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Llangedwyn.[1] Saif ar lan Afon Tanat ar y ffordd B4396, i'r gogledd-ddwyrain o Lanfyllin ac i'r de-orllewin o Groesoswallt, heb fod ymhell o'r ffîn a Lloegr.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Craig Williams (Ceidwadwr).[3]

Hanes[golygu | golygu cod]

Ail-adeiladwyd yr eglwys, sydd wedi ei chysegru i Sant Cedwyn, yn 1870. Bu Neuadd Llangedwyn ym meddiant teulu Williams Wynn. Ceir bryngaer Llwyn Bryn-Dinas gerllaw.

Hyd at 1996 roedd y gymuned yn rhan o Glwyd. Heblaw pentref Llangedwyn ei hun, mae'r gymuned yn cynnwys Sycharth, lle ganed Owain Glyndŵr. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 380

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llangedwyn (pob oed) (402)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llangedwyn) (84)
  
21.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llangedwyn) (116)
  
28.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llangedwyn) (49)
  
28.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. Gwefan Senedd Cymru
  3. Gwefan Senedd y DU
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nifer sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.