Aberllynfi
Oddi ar Wicipedia
Pentref yng nghymuned Gwernyfed ym Mhowys, yw Aberllynfi (Saesneg: Three Cocks). Saif ar lan ddeheuol Afon Gwy, i'r de o'r Clas ar Wy, ger cyffordd y priffyrdd A438 ac A4079. Llifa Afon Llynfi fymryn i'r gorllewin o'r pentref i ymuno ag Afon Gwy.
Lleolir Ysgol Uwchradd Gwernyfed yma, ac mae hefyd ystad ddiwydiannol. Gerllaw y pentref mae olion Castell Aberllynfi, castell mwnt a beili sy'n dyddio o'r 12fed ganrif. Ceir bryngaer Aberllynfi Gaer yn yr ardal hefyd.

