Llanfair Llythynwg

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref a chymuned ym Mhowys, yw Llanfair Llythynwg (Saesneg: Gladestry). Saif y pentref i'r de o bentref Maesyfed ac yn agos i'r ffîn a Lloegr. Dyddia rhan hynaf yr eglwys i'r 13eg ganrif. Mae Llwybr Clawdd Offa yn rhedeg trwy'r pentref. Daw enw'r pentref o hen gwmwd Llythynwg, a feddianwyd gan y Normaniaid i greu arglwyddiaeth Maesyfed.

Heblaw pentref Llanfair Llythynwg, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Eglwys Newydd a Llanfihangel Dyffryn Arwy. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 419, gyda 12.4% yn siarad Cymraeg, y ganran uchaf ymhlith cymunedau yr hen Sir Faesyfed.