Llangynidr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llangynidr: y bont ar Afon Wysg.

Pentref a chymuned ym Mhowys, yw Llangynidr. Saif y pentref ar lan ddeheuol Afon Wysg, ac mae Camlas Aberhonddu a'r Fenni gerllaw hefyd. Dyddia Pont Llangynidr dros yr afon o tua 1600.

I'r de o'r pentref mae Mynydd Llangynidr, oedd ar un adeg yn llawn o chwareli calchfaen ar gyfer diwydiannau y cymoedd ymhellach i'r de. Mae'r gymuned yn ymestyn hyd at y ffîn a Blaenau Gwent. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 1,005.

Cyfrifiad 2011[golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llangynidr (pob oed) (1,036)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llangynidr) (115)
  
11.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llangynidr) (587)
  
56.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Llangynidr) (165)
  
38.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Shadows in a Landscape(gol. Martin Wibberley) (2000)

Cyfeiriadau[golygu]

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12. . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: