Llangamarch

Oddi ar Wicipedia
Llangamarch
Eglwys Cadmarch Sant, Llangamarch.
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlangamarch Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.1137°N 3.5582°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN934473 Edit this on Wikidata
Cod postLD4 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJames Evans (Ceidwadwyr)
AS/auFay Jones (Ceidwadwyr)
Map

Pentref gwledig a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Llangamarch[1] (Saesneg: Llangammarch Wells). Mae'n gorwedd ar lan Afon Irfon ar ei chymer ag Afon Camarch, 6 milltir a hanner i'r gorllewin o Lanfair-ym-Muallt a thua 3 milltir i'r dwyrain o Lanwrtyd. Mae ganddo boblogaeth o 475 (2001).

Ynys yn Afon Irfon, Llangamarch

I'r de o'r pentref cyfyd bryniau Mynydd Epynt i gyrraedd 1554 troedfedd (neu 474m) yn y Drum Du a'r Bryn Du.

Yn ôl traddodiad sefydlwyd clas yn Llangamarch gan sant o'r enw Camarch/Cammarch, un o feibion Gwynlliw, ond ymddengys fod y pentref yn cymryd ei enw oddi ar yr afon o'r un enw. Cysegrir yr eglwys i Sant Tysilio. Ceir darn o faen gyda chroes Geltaidd yn y porth.

Roedd John Penry (1559 - 1593), y merthyr Protestannaidd a llenor enwog, yn frodor o Langamarch.

Gelwir y pentref yn Llangammarch Wells yn Saesneg am iddo ddod yn ddyfrfa poblogaidd iawn, gyda Llanfair-ym-Muallt, Llandrindod a Llanwrtyd, yn y 19g. Roedd yn spa oedd yn arbennig o boblogaidd gan ymwelwyr o'r Almaen, yn cynnwys y Kaiser (ymerawdwr) Wilhelm II a arhosodd yno yn 1912.

Mae gan Langamarch orsaf ar Reilffordd Calon Cymru.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Fay Jones (Ceidwadwyr).[3]

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llangamarch (pob oed) (541)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llangamarch) (89)
  
16.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llangamarch) (261)
  
48.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llangamarch) (94)
  
38.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
5%

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-30.
  3. Gwefan Senedd y DU
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.