Croes

Oddi ar Wicipedia

Mae croes yn siap geometrig sy'n cynnwys dwy linell neu far unionsgwar i'w gilydd, gan rannu un neu ddau o'r llinellau mewn hanner. Gan amlaf, rhed y llinellau'n fertigol neu'n llorweddol; os ydynt yn rhedeg ar letraws, defnyddir y term technegol sawtyr i'w disgrifio.

Mae'r groes yn un o symbolau mwyaf hynafol y ddynoliaeth, ac fe'i defnyddir gan nifer o grefyddau, megis Cristnogaeth. Caiff ei defnyddio'n aml fel cynrychioliad o raniadau'r byd i mewn i bedair elfen (neu'r pwyntiau prifol), neu weithiau fel undod o'r cysyniadau o ddwyfoldeb, y llinell fertigol, a'r byd, y llinell llorweddol.

Ar faneri[golygu | golygu cod]

Gwelir croesau ar nifer o faneri, gan gynnwys pob gwlad yn Sgandinafia, a nifer o genhedloedd yn Hemisffer y De, sy'n ymgorffori'r Croes y De. Ers y 17g, mae baner y Swistir wedi arddangos croes hafalochrog mewn sgwâr (yr unig wladwriaeth sofren sydd â baner sgwâr heblaw am Ddinas y Fatican); seiliwyd logo'r Groes Goch ar faner y Swistir.

Baneri gwladwriaethau sofren sydd â chroesau arnynt[golygu | golygu cod]

Detholiad o faneri eraill sydd â chroesau arnynt[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Chwiliwch am Croes
yn Wiciadur.