Denmarc

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Kongeriget Danmark
Teyrnas Denmarc
Baner Denmarc Arfbais Denmarc
Baner Arfbais
Arwyddair: Dim1
Anthem: Der er et yndigt land (cenedlaethol)
Kong Kristian (brenhinol)
Lleoliad Denmarc
Prifddinas København
Dinas fwyaf København
Iaith / Ieithoedd swyddogol Daneg2
Llywodraeth Brenhiniaeth gyfansoddiadol
 • Brenhines
 • Prif Weinidog
Margrethe II
Helle Thorning-Schmidt
Cydgyfnerthiad
Cynhanesiol
Esgyniad i'r UE 1 Ionawr, 1973
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
43,0943 km² (131fed3)
1.63
Poblogaeth
 - Amcangyfrif 2005
 - Cyfrifiad 2006
 - Dwysedd
 
5,450,661 (109fed)
5,431,000
126/km² (62fed3)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif 2005
$187.9 biliwn3 (45fed)
$34,7003 (6fed)
Indecs Datblygiad Dynol (2003) 0.941 (14fed) – uchel
Arian cyfred Krone Danaidd (DKK)
Cylchfa amser
 - Haf
CET3 (UTC+1)
CEST3 (UTC+2)
Côd ISO y wlad .dk3
Côd ffôn +453
1 Arwyddair y Frenhines: Guds hjælp, Folkets kærlighed, Danmarks styrke (Daneg: God's help, the People's love, Denmark's strength)

2 Yn ogystal â Inuktitut yn Grønland a Ffaroeg yn yr Ynysoedd Faroe.

3 <excluding> Ynysoedd Faroe a Grønland

Mae Teyrnas Denmarc (Daneg: Kongeriget Danmark) neu Denmarc (Daneg: Loudspeaker.svg Danmark ?/i ) yn deyrnas Lychlynnaidd fach yng ngogledd Ewrop. Mae Môr y Gogledd yn amgylchynu'r wlad, ag eithrio'r ffin ddeheuol â'r Almaen.

Hanes[golygu]

Prif erthygl: Hanes Denmarc.
Cyfarfod i ffurfio'r cyfansoddiad, 1848

Unwyd Denmarc yng nghyfnod y Llychlynwyr, yn y 10fed ganrif, gan y brenin Harald Ddantlas († 985), a drodd y wlad at Gristnogaeth. Yn yr 11eg ganrif, cymerodd Denmarc feddiant ar Loegr am gyfnod. Yn 1397, unodd a Sweden a Norwy. Parhaodd yr undeb a Sweden hyd 1523 a'r undeb a Norwy hyd 1814. Arferai Gwlad yr Iâ fod ym meddiant Denmarc hefyd, hyd nes iddi ddod yn anibynnol yn 1944. O 1940 hyd 1945, meddiannwyd Denmarc gan yr Almaen. Yn 1973 daeth yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd.

Daearyddiaeth[golygu]

Denmarc yw'r fwyaf deheuol o wledydd Llychlyn. Mae'n cynnwys y rhan fwyaf o orynys Jylland (Jutland) a thua 405 o ynysoedd. Y mwyaf o'r rhain yw Sjælland, Fyn, Lolland, Falster, Langeland, Als, Møn, Bornholm ac Amager. Tir isel yw bron y cyfan o'r wlad, gyda mwy na 65% yn dir amaethyddol. Y copa uchaf yw Møllehøj, 170.86 medr.

Saif y brifddinas ar ynys Sjælland ("Seeland"), sydd a chulfor Øresund yn ei gwahanu oddi wrth Sweden. Cysylltir Copenhagen a dinas Malmö yn Sweden gan Bont Øresund a thwnel. Yr unig ffin ar dir sych yw'r ffin a'r Almaen yn y de.

Dinasoedd[golygu]

Copenhagen 502,204 (1,086,762 yn yr ardal ddinesig)
Århus 228,547
Odense 186,595
Aalborg 160,000
Esbjerg 82,312
Randers 55,897
Kolding 54,526
Vejle 49,782
Horsens 49,457
Roskilde 43,753
Denmarc yn Ewrop
Flag of Denmark.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Ddenmarc. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am Denmarc
yn Wiciadur.