NATO
| Sefydliad Cytundeb Gogledd yr Iwerydd North Atlantic Treaty Organization (NATO) Organisation du Traité de l'Atlantique Nord (OTAN) |
|
| Pencadlys | Brwsel, Gwlad Belg |
|---|---|
| Aelodaeth | 28 o wladwriaethau |
| Iaith / Ieithoedd swyddogol | Saesneg Ffrangeg |
| Ysgrifennydd Cyffredinol | Anders Fogh Rasmussen |
| Cadeirydd Pwyllgor Milwrol NATO | Giampaolo Di Paola |
| Sefydlwyd | 4 Ebrill 1949 |
| Math | Cynghrair milwrol |
| Gwefan | nato.int |
Cynghrair milwrol rhynglywodraethol a sefydlwyd ym 1949 i gefnogi Cytundeb Gogledd yr Iwerydd a arwyddwyd yn Washington, D.C. ar 4 Ebrill, 1949 yw Sefydliad Cytundeb Gogledd yr Iwerydd (Saesneg: North Atlantic Treaty Organisation neu NATO; Ffrangeg: l'Organisation du Traité de l'Atlantique Nord neu OTAN).
Erthygl bwysicaf y Cytundeb Gogledd yr Iwerydd yw erthygl V, sy'n dweud fod ymosodiad ar unrhyw aelod y NATO yn golygu ymosodiad ar bawb ac y bydd Siarter y Cenhedloedd Unedig yn sylfaen i amddiffyn milwrol. Y rheswm dros yr erthygl oedd pryder am ymosodiad gan yr Undeb Sofietaidd yn ystod y Rhyfel Oer. Yn ôl yr erthygl hon mae pob ymosodiad yn golygu ymosodiad ar Unol Daleithiau America, pŵer milwrol mwyaf y byd, ac felly gweithredodd y cynghrair fel atalrym.
Ers diwedd y Rhyfel Oer mae NATO wedi cymryd rhan mewn nifer o ymgyrchoedd y tu allan i'w ardal, hynny yw y tu allan i diriogaeth aelod-wladwriaethau'r cynghrair.
Cynnwys |
Ymgyrchoedd milwrol [golygu]
Ymyraethau yn y Balcanau [golygu]
"Amddiffyn yn Siarp" (Sharp Guard) oedd ymgyrch filwrol gyntaf NATO yn yr hen Iwgoslafia, a hynny rhwng Mehefin 1993 a Hydref 1996. Ei bwrpas oedd atgyfnerthu trwy rym milwrol ei lynges yr embargo arfau a sancsiynau economaidd yn erbyn Gweriniaeth Ffederal Iwgoslafia yn ystod Rhyfel Bosnia. Ar 28 Chwefror 1994, saethwyd pedair awyren Bosnia-Serb a oedd yn hedfan dros ardal gwaharddiad hedfan yng nghanol Bosnia a Hercegovina. Yn Awst 1995, yn dilyn cyflafan Srebrenica cychwynnodd NATO fomio byddin Republika Srpska. Parhaodd yr ymgyrch hyd at Ragfyr 1995.
Ar 24 Mawrth 1999, ac am gyfnod o 11 wythnos, dechreuodd byddin NATO fomio Gwladwriaeth Ffederal Iwgoslafia mewn ymgyrch a alwyd yn Ymgyrch Grym Cynghreiriol (Operation Allied Force), gyda'r nod i atal byddin Serbia rhag lladd sifiliaid yn Kosovo. Daeth ymgyrch NATO i ben ar 11 Mehefin 1999 pan gyhoeddodd arweinydd Iwgoslafia Slobodan Milošević ei barodrwydd i dderbyn Penderfyniad 1244 Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig.
Ymgyrchoedd yn Afghanistan [golygu]
Ymgyrch Tarian y Cefnfor [golygu]
Gan ddechrau ar 17 Awst 2009, gosododd NATO llongau rhyfel mewn ymgyrch i amddiffyn gludiant arforol yng Ngwlff Aden a Chefnfor India rhag môr-ladron Somaliaidd.[1]
Ymyrraeth yn Libya [golygu]
Yn ystod gwrthryfel 2011 Libya, ymysg brwydro gan brotestwyr a gwrthryfelwyr yn erbyn llywodraeth Libya dan Muammar al-Gaddafi, ac ar 17 Mawrth 2011 pasiwyd Penderfyniad 1973 Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig gan alw am gadoediad ac yn awdurdodi gweithredoedd milwrol er mwyn amddiffyn sifiliaid. Dechreuodd clymblaid gan gynnwys nifer o aelod-wladwriaethau NATO weithredu gwaharddiad hedfan dros Libya, ac ar 20 Mawrth cytunodd aelodau NATO i weithredu embargo arfau yn erbyn Libya trwy Ymgyrch Amddiffynnydd Unol. Ar 24 Mawrth cytunodd NATO i gymryd rheolaeth dros y gwaharddiad hedfan. Dechreuodd NATO weithredu Penderfyniad 1973 yn swyddogol ar 27 Mawrth gyda chymorth Qatar a'r Emiradau Arabaidd Unedig.
Aelodaeth [golygu]
| Map yn dangos cysylltiadau â NATO yn Ewrop | ||
|---|---|---|
| Aelodau NATO Cynllun Gweithredol i Ymaelodi Deialog Ddwys trafodaethau i ymaelodi bron wedi eu cwblháu | Cynllun Gweithredol dros Bartneriaeth Unigol cytundebau unigol gyda NATO | |
| Partneriaeth dros Heddwch | ||
Mae NATO yn cynnwys 28 o aelodau: Albania, yr Almaen, Bwlgaria, Canada, Croatia, Denmarc, y Deyrnas Unedig, yr Eidal, Estonia, Ffrainc, Gwlad Belg, Gwlad Groeg, Gwlad yr Iâ, Gwlad Pwyl, Hwngari, yr Iseldiroedd, Latfia, Lithwania, Lwcsembwrg, Norwy, Portiwgal, Rwmania, Slofacia, Slofenia, Sbaen, y Weriniaeth Tsiec, Twrci, a'r Unol Daleithiau.
Ychwanegwyd 16 aelod newydd i NATO y 50 mlynedd ers iddo ffurfio ym 1949. Ymunodd Gwlad Groeg a Thwrci ym mis Chwefror 1952. Ymunodd yr Almaen ddwywaith: un waith fel Gorllewin yr Almaen ym 1955 ac ar ôl aduniad yr Almaen ym 1990 daeth dwyrain y wlad newydd yn aelod o NATO, hefyd. Ymunodd Sbaen ar 30 Mai 1982 a Gwlad Pwyl, Hwngari, a'r Weriniaeth Tsiec, cyn-aelodau Cytundeb Warsaw, ar 12 Mawrth 1999. Ymunodd cyn-aelodau Cytundeb Warsaw Bwlgaria, Estonia, Latfia, Lithwania, Rwmania, a Slofacia, a chyn-weriniaeth Iwgoslafia Slofenia ar 9 Mawrth 2004. Ymunodd Albania a Chroatia ar 1 Ebrill 2009.
Ehangu yn y dyfodol [golygu]
Daw aelodaeth newydd i'r cynghrair yn bennaf o Ddwyrain Ewrop a'r Balcanau, yn cynnwys cyn-aelodau Cytundeb Warsaw. Yn uwchgynhadledd 2008 yn Bucureşti, gwnaed addewid i wahodd tair gwlad i ymuno yn y dyfodol: Gweriniaeth Macedonia,[2] Georgia, a'r Wcráin.[3] Er iddi gyflawni'r gofynion am aelodaeth, ataliwyd esgyniad Macedonia gan Wlad Groeg, hyd nes ceir datrysiad i'r anghydfod dros enw Macedonia.[4] Yn ogystal nid yw Cyprus wedi agosáu tuag at gysylltiadau pellach, yn rhannol oherwydd gwrthwyneb gan Dwrci.[5]
Mae gwledydd eraill bydd o bosib yn ymaelodi yn cynnwys Montenegro a Bosnia a Hercegovina, a ymunodd â'r Siarter Adriatig o aelodau posib yn 2008.[6] Parheir Rwsia wrth wrthwynebu ehangu pellach gan NATO, gan ei weld yn anghyson â chytundebau rhwng yr arweinydd Sofietaidd Mikhail Gorbachev ac Arlywydd yr Unol Daleithiau George H. W. Bush tua diwedd y Rhyfel Oer a alluogwyd am aduniad heddychlon o'r Almaen. Ystyrid polisi ehangu NATO gan Foscfa fel parhad o geisiadau y Rhyfel Oer i amgylchynu ac ynysu Rwsia.[7]
Hanes [golygu]
17 Mawrth, 1948: Arwyddodd gwledydd Benelwcs, Ffrainc a'r Deyrnas Unedig Gytundeb Brwsel, rhagflaenydd Cytundeb NATO.
4 Ebrill, 1949: Arwyddwyd Cytundeb Gogledd yr Iwerydd yn Washington, DC.
14 Mai, 1955: Arwyddwyd Cytundeb Warsaw gan yr Undeb Sofietaidd a gwledydd eraill yn Nwyrain Ewrop er mwyn gwrthbwyso NATO. Gwrthwynebant ei gilydd yn ystod y Rhyfel Oer, ond ar ôl cwymp y Llen Haearn dechreuodd Cytundeb Warsaw ddatgymalu.
1966: Penderfynodd Charles de Gaulle, arlywydd Ffrainc, ddiddymu cydweithrediad Ffrainc yng nghyngor milwrol NATO a dechrau rhaglen amddiffyn niwclear ei hun. Mewn canlyniad, symudwyd pencadlys NATO o Baris i Frwsel ar 16 Hydref, 1967.
31 Mawrth, 1991: Daeth Cytundeb Warsaw i ben (yn swyddogol ar 1 Gorffennaf).
8 Gorffennaf, 1997: Gwahoddwyd Hwngari, y Weriniaeth Tsiec a Gwlad Pwyl i ymuno â NATO. Ymunasant yn 1999.
24 Mawrth, 1999: Cyrch milwrol cyntaf NATO yn ystod y Rhyfel yn Kosovo; gweler uchod.
12 Medi, 2001: Gweithredwyd Erthygl 5 y cytundeb am y tro cyntaf erioed ar ôl yr ymosodiad terfysgol ar Ganolfan Masnach y Byd yn Efrog Newydd.
21 Tachwedd, 2002: Gwahoddwyd Estonia, Latfia, Lithwania, Slofenia, Slofacia, Bwlgaria a Romania i ymuno â NATO. Ymunasant ar 29 Mawrth, 2004. Mae'n bosibl bydd Albania a Chyn-weriniaeth Iwgoslafaidd Macedonia yn cael ymuno yn y dyfodol, ond bydd rhaid cyflawni amodau economaidd, gwleidyddol a milwrol cyn hynny. Ymgeisiodd Croatia ymuno yn 2002.
10 Chwefror, 2003: Roedd NATO yn wynebu argyfwng am fod Ffrainc a Gwlad Belg ddim yn cytuno ar fesurau i amddiffyn Twrci pe bai rhyfel yn erbyn Irac. Doedd yr Almaen ddim yn anghytuno yn swyddogol, ond roedd yn dweud bod hi'n cefnogi'r feto.
16 Ebrill, 2002: Cytunodd NATO i anfon y Llu Cynorthwyol Diogelwch Rhyngwladol (ISAF) i Afghanistan. Dyma oedd y tro cyntaf i NATO benderfynu gweithredu y tu allan i'w ffiniau gweithredu swyddogol.
19 Mehefin, 2003: Newidiwyd strwythur milwrol NATO: Sefydlwyd Trawsnewidiad Rheolaeth y Cynghrair (Allied Command Transformation) i gymryd lle Prif Reolwr y Cynghrair (Supreme Allied Commander).
29 Mawrth, 2004: Ymunodd Bwlgaria, Estonia, Latfia, Lithwania, Romania, Slofacia a Slofenia â NATO.
Ysgrifenyddion Cyffredinol NATO [golygu]
- Yr Arglwydd Ismay (Y Deyrnas Unedig): 4 Ebrill, 1952 - 16 Mai, 1957
- Paul-Henri Spaak (Gwlad Belg): 16 Mai, 1957 - 21 Ebrill, 1961
- Dirk Stikker (Yr Iseldiroedd): 21 Ebrill, 1961 - 1 Awst, 1964
- Manlio Brosio (Yr Eidal): 1 Awst, 1964 - 1 Hydref, 1971
- Joseph Luns (Yr Iseldiroedd): 1 Hydref, 1971 - 25 Mehefin, 1984
- Yr Arglwydd Carington (Y Deyrnas Unedig): 25 Mehefin, 1984 - 1 Gorffennaf, 1988
- Manfred Wörner (Yr Almaen): 1 Gorffennaf, 1988- 13 Awst, 1994
- Sergio Balanzino (Yr Eidal, gweithredol): 13 Awst - 17 Hydref 1994
- Willy Claes (Gwlad Belg): 17 Hydref, 1994 - 20 Hydref, 1995
- Sergio Balanzino (Yr Eidal, gweithredol): 20 Hydref - 5 Rhagfyr, 1995
- Javier Solana (Sbaen): 5 Rhagfyr, 1995 - 6 Hydref, 1999
- George Robertson (Y Deyrnas Unedig): 14 Hydref, 1999 - 1 Ionawr, 2004
- Jaap de Hoop Scheffer (Yr Iseldiroedd): 1 Ionawr, 2004 - 1 Awst 2009
- Anders Fogh Rasmussen (Denmarc): 1 Awst, 2004 - presennol.
Gweler hefyd [golygu]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ (Saesneg) Operation Ocean Shield. Manw.nato.int.
- ↑ Mewn datganiadau swyddogol NATO, cyfeirir at y wlad fel "cyn-Weriniaeth Iwgoslafaidd Macedonia", gyda throednodyn yn dweud "mae Twrci yn adnabod Gweriniaeth Macedonia dan ei enw cyfansoddiadol"; gweler anghydfod dros enw Macedonia.
- ↑ George J, Teigen JM (2008). NATO Enlargement and Institution Building: Military Personnel Policy Challenges in the Post-Soviet Context, European Security, Cyfrol 17, Rhifyn 2, tud. 346. DOI:10.1080/09662830802642512. URL
- ↑ "Croatia & Albania Invited Into NATO", BalkanInsight, 3 April 2008.
- ↑ Simsek, Ayhan. "Cyprus a sticking point in EU-NATO co-operation", Southeast European Times, 14 Mehefin 2007.
- ↑ Ramadanovic, Jusuf a Rudovic, Nedjeljko. "Montenegro, BiH join Adriatic Charter", Southeast European Times, 12 Medi 2008.
- ↑ "Condoleezza Rice wants Russia to acknowledge United States's interests on post-Soviet space", Pravda, 4 Mai 2006.
Dolenni allanol [golygu]
- (Saesneg) (Ffrangeg) (Rwseg) (Wcreineg) Gwefan swyddogol
|
|
|
|---|---|
| Aelodau | Albania · Yr Almaen · Gwlad Belg · Bwlgaria · Canada · Croatia · Denmarc · Y Deyrnas Unedig · Yr Eidal · Estonia · Ffrainc · Groeg · Hwngari · Gwlad yr Iâ · Yr Iseldiroedd · Latfia · Lithwania · Lwcsembwrg · Norwy · Portiwgal · Gwlad Pwyl · Rwmania · Sbaen · Slofacia · Slofenia · Y Weriniaeth Tsiec · Twrci · Yr Unol Daleithiau |
| Ymgeiswyr | Bosnia a Hercegovina · Georgia · Gweriniaeth Macedonia · Montenegro · Wcráin |