Fyn
Oddi ar Wicipedia
Un o ynysoedd Denmarc yw Fyn, hefyd Funen. Hi yw ynys ail-fwyaf Denmarc, gydag arwynebedd o 2975 km2. Mae pontydd a thwneli yn ei chysylltu a gorynys Jylland ac ag ynys Sjælland. Prifddinas yr ynys yw Odense. Mae ei phoblogaeth tua 447,000.
Pobl enwog o Fyn [golygu]
- Hans Christian Andersen, casglwr llên gwerin
- Carl Nielsen, cyfansoddwr