Y Môr Baltig

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Map o'r Môr Baltig

Môr rhwng Sgandinafia a gwledydd cyfandir Ewrop yw'r Môr Baltig. Mae cyswllt o Fôr y Gogledd i'r Môr Baltig trwy Skagerrak a Kattegat, culforoedd rhwng Denmarc, Norwy a Sweden. Mae maint ei wyneb yn 413,000 km² ac mae hi'n cynnwys 21,600 km³ o ddŵr. Gyda dyfnder cyfartalog o 52m, sy'n ymestyn i 459m ar ei ddyfnaf, mae'n fôr bas iawn. Yn ogystal dim ond 1% o gynnwys y dŵr sy'n halen yn y môr hwn, sy'n golygu ei fod yn llai hallt na moroedd eraill.

Daearyddiaeth[golygu]

Y gwledydd ac ardaloedd o gwmpas y Môr Baltig yw Sweden, y Ffindir, Ffederasiwn Rwsia, Estonia, Latfia, Lithuania, Kaliningrad Oblast (clofan bychan Ffederasiwn Rwsia), Gwlad Pwyl, yr Almaen a Denmarc.

Y gylffiau mawr yw Gwlff Bothnia rhwng Sweden a'r Ffindir, Gwlff y Ffindir rhwng y Ffindir a'r gwledydd Baltaidd a Gwlff Riga rhwng Estonia a Latfia.

Yr ynysoedd mwyaf yw Gotland ac Öland (Sweden), Åland (y Ffindir), Hiiumaa a Saaremaa (Estonia). Ceir ynysoedd niferus oddi ar dir mawr Denmarc, e.e. Bornholm, Sjælland a Fyn. Mae Åland yn dalaith annibynnol a heb arfbais yn y Ffindir. Mae'r bobl sydd yn byw ar yr ynys yn siarad Swedeg ac mae baner sydd yn wahanol iawn i un y Ffindir gan yr ynys. Mae'n aelod-wladwriaeth annibynnol yng Nghyngor y Gogledd (Nordic Council).

Mae'n bosib mynd trwy afonydd a chamlesi i Afon Volga yn Rwsia, ac oddi yno ymlaen i'r Môr Gwyn, y Môr Du, Môr Asof a Môr Caspia.

Mae'r Môr Baltig yn enwog am ei ambr.

Gwledydd y Môr Baltig[golygu]

Tywyn ar arfordir Gwlad Pwyl

Mae nifer o wledydd yn ffinio â'r môr, ond gelwir Estonia, Latfia a Lithwania yn "y Gwledydd Baltig".

Gwledydd sy'n ffinio â'r môr:

Gwledydd sydd ym masn y Baltig ond sydd heb ffinio â'r môr:

Ynysoedd a gorynysoedd[golygu]

Castell Hammershus, ynys Bornholm

Dinasoedd a phorthladdoedd[golygu]

Y dinasoedd arfordirol mwyaf:

Porthladdoedd pwysig (er nad yn ddinasoedd mawr):

Cysylltiadau allanol[golygu]