Helsinki

Oddi ar Wicipedia
Helsinki
Mathprifddinas, bwrdeistref y Ffindir Edit this on Wikidata
Poblogaeth675,747 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 12 Mehefin 1550 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethJuhana Vartiainen Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2, EET, Amser Haf Dwyrain Ewrop, UTC+03:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Ffinneg, Swedeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirUusimaa Edit this on Wikidata
GwladBaner Y Ffindir Y Ffindir
Arwynebedd214.42 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr17 metr Edit this on Wikidata
GerllawGwlff y Ffindir, Afon Vantaa Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaEspoo, Vantaa, Sipoo Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau60.1708°N 24.9375°E Edit this on Wikidata
Cod post00100–00990 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolHelsinki City Board Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholCyngor Dinas Helsinki Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Helsinki Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethJuhana Vartiainen Edit this on Wikidata
Map
Sefydlwydwyd ganGustav I o Sweden Edit this on Wikidata
Canol Helsinki o'r awyr

Helsinki (yn Ffinneg; "Cymorth – Sain" ynganiad ), neu Helsingfors (yn Swedeg y Ffindir; "Cymorth – Sain" ynganiad ) yw prifddinas Y Ffindir a'i dinas fwyaf. Mae'n borthladd pwysig ar lan ogleddol Gwlff y Ffindir, yn y Môr Baltig. Helsinki yw canolfan weinyddol a masnachol y wlad. Mae ganddi boblogaeth o 564,908 (31 Ionawr, 2007). Mae ardal drefol Helsinki yn cynnwys dinasoedd Espoo, Vantaa a Kauniainen, sydd gyda'i gilydd yn ffurfio Rhanbarth y Brifddinas, gyda phologaeth o tua 998,535. Yn ogystal mae Helsinki Fwyaf yn cynnwys rhai dinasoedd ychwanegol ac mae ganddi boblogaeth o 1,293,093 (2007), sy'n golygu fod un o bob pedwar Ffinn yn byw yn ardal Helsinki Fwyaf.

Mae ganddi nifer o adeiladau mewn gwenithfaen hardd, gan gynnwys y senedd-dŷ a'r eglwys gadeiriol (18g). Yn ogystal, ceir nifer o adeiladau diweddar a ystyrir yn enghreifftiau rhagorol o bensaernïaeth yr 20g. Ceir nifer o lynnoedd yn y ddinas ac o'i chwmpas. Sefydlwyd ei phrifysgol yn 1828.

Sefydlwyd Helsinki gan y brenin Swedaidd Gustavus I Vasa yn 1550 pan oedd y wlad ym meddiant Sweden. Roedd y rhan fwyaf o'r adeiladau wedi'u gwneud o bren. Dioddefodd y ddinas dân mawr yn 1808 a ddinistriodd rannau mawr ohoni a chafodd ei hail-adeiladau mewn canlyniad. Dan reolaeth Rwsia ar y Ffindir symudwyd y brifddinas o ddinas Turku i Helsinki yn 1812. Yn yr Ail Ryfel Byd dioddefodd bomio ar raddau sylweddol. Erbyn heddiw mae'n ddinas werdd, lewyrchus.

Adeiladau a chofadeiladau[golygu | golygu cod]

  • Eglwys gadeiriol
  • Palas Gwydr
  • Senedd

Pobl o Helsinki[golygu | golygu cod]

Dinaswedd[golygu | golygu cod]

Dolen allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am y Ffindir. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.