Turku

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Turku
Turku postcard 2009.jpg
Turku.sijainti.suomi.2008.svg
Lleoliad yn y Ffindir
Gwlad Y Ffindir
Llywodraeth
Daearyddiaeth
Demograffeg
Poblogaeth Cyfrifiad 182281 (Cyfrifiad 2014)
Dwysedd Poblogaeth 741.98 /km2
Metro 315751
Gwybodaeth Bellach
Cylchfa Amser EET (UTC+2),

Haf: EEST (UTC+3)

Gwefan http://www.turku.fi
Turku yn yr hydref

Dinas ar arfordir de-orllewin y Ffindir ar aber Afon Aura yw Turku (Ffinneg: [ˈturku], Swedeg: Åbo [ˈoːbu]). Gwladychwyd y dref yn ystod y 13fed ganrif a sefydlwyd hi ar ddiwedd y ganrif honno, sy'n golygu mai dinas hynaf y Ffindir yw hi. Daeth yn ddinas bwysicaf y wlad, a bu felly am ganrifoedd. Ar ôl i'r Ffindir ddod yn rhan o Ymedrodraeth Rwsia ym 1809, symudwyd prifddinas Archddugiaeth y Ffindir i Helsinki ym 1812, ond Turku oedd y ddinas fwyaf poblog yn y Ffindir tan ddiwedd y 1840au. Mae'n dal yn brifddinas ranbarthol ac yn ganolbwynt busnes a diwylliant.

Enw[golygu]

Mae'r enw Ffinneg Turku yn deillio o air Hen Slafeg Dwyreiniol tǔrgǔ, sy'n golygu "marchnad".[1] Mae'r gair turku yn dal i olygu "marchnad" mewn rhai idiomau yn y Ffinneg. Torg yw'r gair Swedeg am farchnad ac mae'n debyg iddo gael ei fenthyg o Hen Slafeg Dwyreiniol, ond roedd eisoes yn cael ei ddefnyddio yn Hen Swedeg. [2]

Mae'r enw Swedeg Åbo i'w weld yn hawdd ei esbonio, oherwydd iddo gynnwys y geiriau å ("afon") a bo ("nyth, annedd") a allai olygu rhyweth tebyg i "dŷ'r afon". Er hynny, mae geirdarddwyr yn credu bod yr esboniad hwn yn anghywir gan mai hen enw yw ef ac nad oes dim enwau tebyg eraill.[3] Ceir hen derm cyfreithiol o'r enw åborätt (sy'n golygu "hawl i fyw yn"), a oedd yn rhoi'r hawl etifeddadwy i ddinasyddion ("åbo") i fyw ar dir a oedd yn perthyn i'r goron.[4]

Awgrymwyd hefyd fod yr enw Ffinneg Turku yn cyfeirio at y farchnad yn wreiddiol ond bod yr enw Swedeg Åbo yn cyfeirio at y castell.

Yn Ffinneg, Turun yw cyflwr genidol Turku, felly mae llawer of enwau Ffineg ar sefydliadau Turku yn dechrau gyda'r gair hwn, er enghraifft, Turun yliopisto am Brifysgol Turku.

Gefeilldrefi[golygu]

Gefeilliwyd Turku â:

Mae gan Turku gytundebau cydweithredu â'r dinasoedd hyn:

Oriel[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

Flag of Finland.svg Eginyn erthygl sydd uchod am y Ffindir. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.