Tallinn
Prifddinas a dinas fwyaf Estonia yw Tallinn. Mae 410,200 o bobl yn byw yno (Gorffennaf 2010). Fe'i lleolir ar arfordir gogleddol Estonia, ar lan Gwlff y Ffindir, sy'n fraich o'r Môr Baltig, tua 80 km (50 milltir) i'r de o Helsinki (Y Ffindir).
Dim ond 54.9% o'r boblogaeth sy'n Estoniaid ethnig. Mae'r gweddill yn cynnwys y 36.5% o'r boblogaeth sy'n Rwsiaid ethnig gyda tua eu hanner heb ddod yn ddinasyddion Estoniaidd eto.
Mae Tallinn yn borthladd pwysig. Ceir gwasanaethau fferi sy'n cysylltu'r ddinas a Helsinki ac Ynysoedd Åland yn y Ffindir, Stockholm yn Sweden a Rostock yn yr Almaen. Lleolir prif faes awyr Estonia ger Tallinn a daw nifer o ymwelydd yno o wledydd eraill Ewrop a'r tu hwnt.
Ers 1997 mae Hen Ddinas Tallinn, sy'n cynnwys Toompea, wedi ei rhestru gan UNESCO fel Safle Treftadaeth y Byd.
Adeiladau a chofadeiladau [golygu]
- Castell Toompea
- Cofadail Russalka
- Eglwys gadeiriol Alecsandr Nevski
- Yr Hen Tomos
- Y Milwr Efydd
- Oleviste kirik (eglwys)
- Raekoda (Neuadd y dinas)
Enwogion [golygu]
- Jacob De la Gardie (1583-1652), gwleidydd a milwr
- Paavo Järvi (g. 1962), cerddor
Dolenni allanol [golygu]
- (Saesneg) Gwefan Tallinn