Bern
Oddi ar Wicipedia
- Mae'r erthygl yma yn trafod dinas Bern. Am ystyron eraill, gweler Bern (gwahaniaethu).
Bern (Almaeneg: Bern; Ffrangeg: Berne) yw prifddinas y Swisdir, ac hefyd brifddinas canton Bern. Gyda phoblogaeth o 127,318 (2004), hi yw'r bedwaredd dinas yn y Swisdir o ran poblogaeth.
Saif y ddinas ar afon Aare. Enwyd hen ganol y ddinas yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.
Sefydlwyd y ddinas bresennol gan y tywysog Berthold V van Zähringen yn 1191. Dywedir i'r ddinas gael ei henw oherwydd i'r tywysog ladd arth ar y safle. Yn 1218 daeth Bern yn ddinas rydd, a llwyddodd i ennill ei hannibyniaeth mewn dau ryfel. Ymunodd Bern a'r conffederasiwn Swisaidd yn 1323.