Beograd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Arfau Beograd
Beograd, 2012

Beograd (Serbeg Београд; Saesneg, Belgrade) yw prifddinas a dinas fwyaf Serbia. Ymsefydlodd pobl y diwylliant Vinča yn yr ardal tua 4800 CC, ac yn y drydedd ganrif CC ymsefydlodd y Celtiaid yma. Dan y Rhufeiniaid daeth yn ddinas Singidunum.

Cofnodir yr enw Slafeg Beligrad, ffurf o Beograd, sy'n golygu "Y ddinas wen", yn 878. Saif y ddinas lle mae Afon Sava yn llifo i mewn i Afon Donaw. Roedd y boblogaeth yn 1,710,000 yn 2007, y bedwaredd dinas o ran poblogaeth yn ne-ddwyrain Ewrop ar ôl Istanbul, Athen a Bucharest.

Llyfryddiaeth[golygu]

Flag of Serbia.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Serbia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.