Istanbul
Istanbul (Twrceg: İstanbul, hefyd 'Stamboul; Cymraeg: Caergystennin) yw dinas fwyaf Twrci a'i ganolfan ddiwyllianol a masnachol bwysicaf. Cyn i Ataturk ei symud i Ankara yn 1923, Istanbul oedd prifddinas y wlad. Yr hen enwau arni oedd Constantinopolis neu Constantinople (Groeg: Κωνσταντινούπολις, Twrceg: Konstantinopolis), cyn 1930, a Byzantium yng nghyfnod yr Ymerodraeth Fysantaidd. Heddiw, mae tua 11 i 15 miliwn o bobl yn bwy ynddi. Saif ar lannau Culfor Bosphorus ac mae'n amgae'r harbwr naturiol a adnabyddir fel y Corn Euraidd (Twrceg: Haliç, Saesneg Golden Horn). Mae rhan o'r ddinas ar dir Ewrop (Thrace) a'r gweddill yn Asia (Anatolia); hi yw'r unig ddinas fawr yn y byd sy'n sefyll ar ddau gyfandir. Mae'n brif ddinas Talaith Istanbul yn ogystal.
Istanbul yw'r unig ddinas yn hanes y byd sydd wedi bod yn brifddinas i dair ymerodraeth wahanol, sef yr Ymerodraeth Rufeinig (330-395), yr Ymerodraeth Fysantaidd (395-1453) ac Ymerodraeth yr Otomaniaid (1453-1923). Mae'r ddinas wedi cael ei dewis yn Brifddinas Diwylliant Ewropeaidd am 2010. Ychwanegwyd rhannau hanesyddol yr hen ddinas, ar y lan Ewropeaidd, at Restr Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO yn 1985.
Adeiladau a chofadeiladau [golygu]
- Caferağa Medresseh
- Cumhuriyet Anıtı
- Eglwys Pammakristos
- Hagia Sofia
- Haseki Hürrem Sultan Hamamı
- Mosg Glas
- Obelisg Theodosius
- Palas Dolmabahce
- Palas Ihlamur
- Palas Maslak
- Palas Topkapi
- Palas Yildiz
- Tŵr Galata
- Tŵr GarantiBank
Pobl o Istanbul [golygu]
- Constantine Mavrocordatos (1711-1769), Tywysog Wallachia
- Alexander Ypsilantis (1725–1805), Tywysog Wallachia
- Halide Edip Adıvar (1884-1964), nofelydd a gwleidydd
- Bülent Ecevit (1925-2006), gwleidydd ac awdur
- Hülya Koçyiğit (g. 1947), actores