Houston

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio
Houston

Dinas yn nhalaith Texas yn yr Unol Daleithiau yw Houston. Gyda phoblogaeth o 2,231,000 yn 2006, hi yw dinas fwyaf Texas, a phedwaredd dinas yr Unol Daleithiau o ran poblogaeth. Roedd poblogaeth yr ardal ddinesig tua 5.6 miliwn.

Sefydlwyd Houston ar 30 Awst, 1836 gan y brodyr Augustus Chapman Allen a John Kirby Allen, ger glannau Buffalo Bayou. Daeth yn ddinas yn 1837, ac enwyd hi ar ôl Sam Houston, Arlywydd Gweriniaeth Texas ar y pryd.

Mae Houston yn ganolfan fusnes bwysig, ac yn bencadlys i fwy o gwmnïau Fortune 500 nag unrhyw ddinas arall yn yr Unol Daleithiau heblaw Dinas Efrog Newydd. Ceir Canolfan Ofod Lyndon B. Johnson yn perthyn i NASA yma hefyd.

Eginyn erthygl sydd uchod am yr Unol Daleithiau. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato

Offer personol