Twrci

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Pwnc yr erthygl hon yw'r wlad ar lan ddwyreiniol y Môr Canoldir. Gweler Twrci (aderyn) am wybodaeth ar yr aderyn.
Türkiye Cumhuriyeti
Gweriniaeth Twrci
Baner Twrci Arfbais Twrci
Baner Arfbais
Arwyddair: Yurtta Sulh, Cihanda Sulh
Twrceg: "Heddwch cartref, heddwch yn y byd")
Anthem: İstiklâl Marşı
Lleoliad Twrci
Prifddinas Ankara
Dinas fwyaf Istanbul
Iaith / Ieithoedd swyddogol Twrceg
Llywodraeth Gweriniaeth
 • Arlywydd
 • Prif Weinidog
Abdullah Gül
Recep Tayyip Erdoğan
Olyniaeth

 • Rhyfel Annibyniaeth
 • Sefydlu'r Senedd
i Ymerodraeth yr Otomaniaid
19 Mai 1919
23 Ebrill 1920
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
873,562 km² (37fed)
1.3
Poblogaeth
 - Amcangyfrif 2005
 - Cyfrifiad 2000
 - Dwysedd
 
72,600,000 (17fed)
71,803,927
93/km² (102fed)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif 2006
$1.412.03 biliwn (10fed)
$18,385 (35fed)
Indecs Datblygiad Dynol (2006) 0.857 (32fed) – canolig
Arian cyfred Lira Twrcaidd Newydd (€) 1 (EUR)
Cylchfa amser
 - Haf
EET (UTC+2)
EEST (UTC+3)
Côd ISO y wlad .tr
Côd ffôn +90
1 cyn i 2005: Lira Twrcaidd

Gweriniaeth yn Ewrop ac Asia yw Gweriniaeth Twrci neu Twrci (Twrceg: Türkiye Cumhuriyeti, Cwrdeg: Komara Tirkiyê). Cyn 1922 yr oedd y wlad yn gartref i Ymerodraeth yr Otomaniaid. Mae Twrci wedi'i lleoli rhwng y Môr Du a Môr y Canoldir. Y gwledydd cyfagos yw Georgia, Armenia, Aserbaijan ac Iran i'r dwyrain, Irac a Syria i'r de a Gwlad Groeg a Bwlgaria i'r gorllewin. Ankara yw prifddinas y wlad.

Daearyddiaeth[golygu]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Daearyddiaeth Twrci

Mae Twrci yn ymestyn ar draws dau gyfandir. Yn Asia y mae'r darn mwyaf, Anatolia, syn ffurfio tua 97% o arwynebedd y wlad (tua 760.000 km²). Y 3% arall yw'r rhan sydd yn Ewrop, dwyrain Thracia (23.623 km²).

Mynyddoedd uchaf Twrci[golygu]

Afonydd pwysicaf[golygu]

Llynnoedd[golygu]

Ynysoedd[golygu]

Hanes[golygu]

Prif erthygl: Hanes Twrci

Mae gan Dwrci hanes hir a chyfoethog iawn. Mae'r wlad a elwir Twrci heddiw wedi gweld sawl cenedl ac ymerodraeth yn ei meddianu neu yn ei phreswylio.

Yn y mileniau cyn Crist bu'n gartref i ymerodraeth yr Hitiaid. Ceir tystiolaeth bod rhai o lwythi'r Celtiaid wedi treulio amser yn Asia Leiaf hefyd. Yna daeth y Groegiaid i wladychu ardaloedd eang ar arfordiroedd y Môr Canoldir, Môr Aegea a'r Môr Du. O blith y dinasoedd enwog a sefydlwyd ganddynt gellid enwi Caergystennin, Caerdroia, Effesus, Pergamon a Halicarnassus.

Rheolwyd y wlad gan yr Ymerodraeth Bersiaidd am gyfnod yn ystod y rhyfela a gwrthdaro rhwng Persia a gwladwriaethau annibynnol Gwlad Groeg, dan arweinyddiaeth Athen. Gwelwyd Alecsander Mawr yn teithio trwyddi ar ei ffordd i gwncwerio Babilon, Tyrus, y Lefant ac Asia. O'r ail ganrif CC ymlaen daeth yn raddol i feddiant y Rhufeiniaid a chreuwyd talaith Asia ganddynt ac ychwanegwyd at gyfoeth ac ysblander yr hen ddinasoedd Groegaidd.

Am fil o flynyddoedd bron bu'r Ymerodraeth Fysantaidd yn dwyn mantell Rhufain yn Asia Leiaf a'r Dwyrain Canol ond ildio tir fu ei hanes; yn gyntaf rhag Persia, wedyn yr Arabiaid Mwslemaidd ac yn olaf y Tyrciaid eu hunain. Yn y diwedd dim ond Caergystennin ei hun oedd yn aros, er gwaethaf (neu efallai oherwydd) sawl Croesgad aneffeithiol o Ewrop.

Cwympodd Caergystennin yn y flwyddyn 1453; trobwynt mawr yn hanes y Gorllewin a'r Dwyrain fel ei gilydd. O hynny ymlaen am dros bedair canrif roedd Constantinople yn brifddinas Ymerodraeth yr Otomaniaid a ymestynnai o'r ffin ag Iran yn y dwyrain i ganolbarth Ewrop a pyrth Budapest a Vienna yn y gorllewin, ac o lannau'r Môr Du yn y gogledd i arfordir Gogledd Affrica.

Yn sgîl y Rhyfel Byd Cyntaf, pan ochrodd Twrci â'r Almaen, cafwyd chwyldro yn Nhwrci a sefydlwyd gweriniaeth seciwlar gan Ataturk, "Tad y Twrci fodern". Symleiddiwyd yr iaith a throes y wlad ei golygon tua'r gorllewin. Erbyn heddiw mae Twrci yn aelod o NATO ac yn gobeithio ymuno a'r Undeb Ewropeaidd fel aelod llawn ohoni.

Iaith a diwylliant[golygu]

Twrceg yw prif iaith y wlad a siaredir gan bawb, ond yn y dwyrain ceir nifer o siaradwyr Cwrdeg a rhyw faint o siaradwyr Arabeg yn y de-ddwyrain yn ogystal.

Mae mwyafrif y trigolion yn Fwslemiaid

Daeth Sant Siôr, nawddsant Lloegr, o ardal sydd yn ran o Dwrci erbyn hyn.

Economi[golygu]

Gallery[golygu]

Dolenni allanol[golygu]

Twrci

Sefydliadau cyhoeddus[golygu]

Proffeiliau[golygu]

Gweler hefyd[golygu]


Gwledydd y Môr Canoldir
Yr Aifft | Albania | Algeria | Bosnia a Hertsegofina | Croatia | Cyprus | Yr Eidal | Ffrainc | Gwlad Groeg | Israel | Libanus | Libya | Malta | Monaco | Montenegro | Moroco | Palesteina | Sbaen | Slofenia | Syria | Tunisia | Twrci

Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am twrci
yn Wiciadur.