Swleiman I

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Swleiman I

Swltan Ymerodraeth yr Otomaniaid o 1520 hyd ei farwolaeth oedd Kanuni Sultan Swleiman I, hefyd Swleiman y Godidog (6 Tachwedd 14946 Medi 1566).

Ganed ef yn Trabzon, yn fab i'r Swltan Selim I. Wedi iddo ddilyn ei dad ar yr orsedd, ymgymerodd a chyfres o ymgyrchoedd milwrol, gan ymestyn ei ffiniau i gynnwys y Balcanau a rhan o'r Ymerodraeth Lân Rufeinig. Yn 1522, cipiodd ynys Rhodos oddi ar Farchogion yr Ysbyty. Yn 1526, gorchfygodd frenin Hwngari a'i ladd ym Mrwydr Mohács, gyda'r canlyniad fod Hwngari'n ymrannu'n dair rhan. Bu'n gwarchae ar ddinas Fienna yn 1529 a 1532, ond heb lwyddiant, ac yn 1533 gwnaeth gytundeb heddwch a'r Archddug Ferdinand.

Yn y dwyrain, bu'n ymladd yn erbyn rheolwyr Saffafid Persia. Cipiodd ddinas Baghdad oddi wrthynt yn 1534. Cipiodd lawer o diriogaeth yng Ngogledd Affrica hefyd, gan eu defnyddio ar gyfer ymosodiadau ar fyddinoedd yr ymerawdwr Siarl V. Un o gadfridogion Swleiman yn yr ymgyrchoedd hyn oedd Khair-ed-din Barbarossa.

Dan ei deyrnasiad ef, blodeuodd dysg a phensaerniaeth yn yr ymerodraeth, ac ef oedd yn gyfrifol am ail-adeiladu Istanbul, Mecca a Baghdad. Bu farw yn Szigetvár, a dilynwyd ef gan ei fab Selim II.

Rhagflaenydd:
Selim I
Swltan Ymerodraeth yr Otomaniaid
22 Medi 15205 Medi 1566
Olynydd:
Selim II