Hethiaid

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ymerodraeth yr Hethiad; coch tywyll: tiriogaeth yr Hethiaid tua 1560 CC; coch golau: ymestyniad mwyaf yr ymerodraeth, cyn Brwydr Kadesh. Ymerodraeth yr Aifft mewn gwyrdd.

Pobl yn siarad iaith Indo-Ewropeaidd yn byw yn Anatolia (Twrci yn awr) oedd yr Hethiaid. Yn y canrifoedd wedi 1600 CC, creasant ymerodraeth yn ymestyn dros ardal eang, gyda Hattusa fel prifddinas. Gyda'r Aifft a Babilon, roeddynt yn un o'r pwerau mawr yn y dwyrain canol yn y cyfnod yma. Daw'r enw Hatti o ddogfennau'r Asyriaid; ni wyddom beth oedd enw'r Hethiaid arnynt ei hunain.

Dim ond yn y 19eg ganrif yr ail-ddarganfuwyd yr Hethiaid. Yn 1834, cafodd Charles Félix Tesier (1802-1871) hyd i weddillion hen ddinas ger pentref Bogazköy yn Anatolia, a daeth yn amlwg trwy gloddio archaeolegol mai hon oedd dinas Hattusa. Gwnaed darganfyddiadau archaeolegol pwysig yma, yn cynnwys archif o ddogfennau'r ymerodraeth. Ceir llawer o sôn amdanynt yng ngofnodion yr Hen Aifft, oedd yn un o'r grymoedd oedd yn cystadlu a hwy; er enghraifft ymladdwyd Brwydr Kadesh rhwng yr Aifft a'r Hethiaid. Ceir cyfeiriadau atynt yn y Beibl hefyd.