Hil-laddiad Armenia

Oddi ar Wicipedia
Hil-laddiad Armenia
Enghraifft o'r canlynolhil-laddiad, trais ethnig, mudo gorfodol Edit this on Wikidata
Dyddiad1915 Edit this on Wikidata
Lladdwyd1,200,000 ±500000 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd24 Ebrill 1915 Edit this on Wikidata
Lleoliadyr Ymerodraeth Otomanaidd, Western Armenia, Six vilayets Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Rafael de Nogales Méndez (1879-1936), o Feneswela a wasanaethodd fel swyddog yn y Y Fyddin Ottoman. Ysgrifennodd gyfrif manwl o'r llofruddiaethau yn ei llyfr "Cuatro años bajo la media luna"

Hil-laddiad Armenia neu'r Holocost Armenaidd (Armeneg:Հայոց Ցեղասպանութիւն) yw'r term a ddefnyddir yn gyffredinol am y digwyddiadau yn ystod ac yn fuan ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, pan laddwyd nifer fawr o Armeniaid gan awdurdodau yr Ymerodraeth Ottoman.

Dyddir dechrau'r ymgyrch hil-laddiad yn erbyn yr Armeniaid fel rheol o 24 Ebrill 1915, pan gymerodd yr awdurdodau Ottoman tua 250 o arweinwyr Armenaidd yng Nghaergystennin i'r ddalfa. O hynny ymlaen, lladdwyd Armeniaid ar raddfa fawr, a bu eraill farw ar ôl cael eu gorfodi i gerdded am gannoedd o filltiroedd i anialwch yr hyn sy'n awr yn Syria, heb fwyd na diod.

Credir yn gyffredinol i rhwng miliwn a miliwn a hanner o Armeniaid farw yn ystod y cyfnod yma. Bu gweithrediadau cyffelyb, ar raddfa lai, yn erbyn rhai grwpiau ethnig eraill, megis yr Assyriaid a'r Groegiaid.

Ystyrir gan lawer o ysgolheigion mai Hil-laddiad Armenia oedd yr enghraifft gyntaf o hil-laddiad systematig yn y cyfnod modern. Erys y pwnc yn un dadleuol; nid yw Twrci yn derbyn fod y term "hil-laddiad" yn ddisgrifiad cywir o'r digwyddiadau.