Newid hinsawdd
| Yr Amgylchedd | |
|
Tywydd Newid hinsawdd Cynhesu byd eang |
|
Mae newid hinsawdd yn golygu amrywiad yn nhymheredd cymedrig y byd dros gyfnod o amser. Ar gyfer y newid diweddar, gweler Cynhesu byd eang.
Cynnwys |
[golygu] Achosion Naturiol Newid Hinsawdd
[golygu] Newidiadau Egni Solar
Mae'r faint o egni mae'r haul yn allyrru amrywio ac geometri'r ddaear newid i fod yn pellach neu'n agosach i'r haul. Gall ffactorau yma newid patrymau hinsoddol y byd. Gelwir patrymau geometri'r ddaear yn cylchoedd Milankovitch.
[golygu] Drifft cyfandirol
O edrych ar y creigiau yng Nghymru a'r DU, mae'n amlwg bod creigiau fel hen dywodfaen coch a mesurau glo wedi ffurfio mewn amgylchiadau trofannol. Gellir egluro hyn trwy derbyn bod drifft cyfandirol wedi digwydd.
[golygu] Effaith albedo
Gallu i arwynebedd adlewyrchu tonnau golau a gwres yw albedo. Mae gan iâ albedo o 80% ac mae gan borfa albedo o 25%. Mae modd dangos felly bod cynydd yn y ddaear sydd wedi ei gorchuddio gan eira yn creu amgylchiadau sy'n ffafrio i fwy o eira ymgasglu.
[golygu] Cerryntau môr ac effaith Nino
Mae hinsoddau'r byd yn cael ei effeithio gan lwybrau cerrynt morol. Mae hinsawdd tymherus gorllewin Ewrop yn dibynnu ar gerryntau cynnes y Ddrifft Gogledd Iwerydd. Mae hyn yn digwydd yn cyson o flwyddyn i flwyddyn. Mae effaith El Nino yn dangos beth sy'n digwydd pan mae'r patrwm arferol yn cael ei newid. Mae'r patrymau morol yn y Cefnfor Tawel yn newid tua pob 9 mlynedd. Mae hyn yn effeithio ar tywydd Dwyrain Awstralia a Gorllewin Periw.
[golygu] Gweithgaredd Folcanig
Mae nifer o echdoriadau folcanig wedi digwydd ers 1980 sydd yn gael effaith ar y hinsawdd. Pan ffrwydrodd Mynydd St. Helens yn 1980, anfonwyd llawer o ludw a sylffed mân i'r atmosffer. Newidiodd hyn albedo'r ddaear gan adlewyrchu golau'r haul. Effaith hyn oedd gostyngiad yn nhymheredd y ddaear gan 0.1 °C. Yn 1991 ffrwydrodd Pinatubo ar ynysoedd y Philipinau, y digwyddiad mwyaf o'i fath ers dechrau'r ganrif. Aeth tua 5-8 kilomedr ciwbig o lwch i'r awyr gan ymestyn hyd at 24km uwchben y ddaear. Yn ystod y dyddiau nesaf, gwasgarodd y lludw o amgylch y blaned gyfan. Gostyngodd tymheredd y byd tua 1 °C am hyd at 5 mlynedd. Credir gwyddonwyr gall echdoriad folcanig achosi oes ia arall.
[golygu] Achosion Dynol Newid Hinsawdd
[golygu] Newid yn llysdyfiant
Mae gan goed gwerth economaidd da enwedig mewn gwledydd llai economaidd ddatblygedig. Mae hyn yn rhoi nhw dan bygythiad, ac maent yn diflannu'n gyflum.
Mae coed yn bwysig gan ei fod yn gymorth yn cadw lefelau nwyon (carbon deuocsid ag ocsigen) yn gyson yn yr atmosffer. Mae coed yn ymddwyn fel sinc Carbon Deuocsid ac maent yn rhyddhau ocsigen fel sgil gynyrch. Wrth i ni torri'r coed yma i lawr rydym yn lleihau'r nifer o adweithiau ffotosynthesis sy'n digwydd ar y ddaear ac felly mae'r tymheredd yn cynyddu.
Ar y llaw arall gall torri coed lawr cael effaith cadarnhaol wrth herio cynhesu byd eang. Mae coed yn bwysig gan ei bod yn gymorth i gadw tymheredd y byd yn gyson. Os oes newid yn nifer a dosbarthiad y coedwigoedd yna bydd tymheredd y byd yn addasu i'r amgylchiadau newydd. Mae gan goed albedo isel ac felly maent yn amsugno mwy o egni'r haul gan gynyddu tymheredd y ddaear. Wrth dorri lawr y coedwigoedd Boreal (ardaloedd oer) yma mae yna fwy o olau yn cael ei adlewyrchu gan yr eira ac felly gostyngir tymheredd y ddaear.
[golygu] Llygredd
Gelwir yr effaith mae llygredd (CO2 yn bennaf) yn cael ar ei'n ddaear yn Effaith tŷ gwydr (saesneg:greenhouse effect). Wrth i ni allyrru symiau enfawr o lygredd i'n atmosffer mae'n creu blanced sy'n ynysu ei'n planed. Wrth i ni gwneud hyn mae'r tymheredd cymedrig y ddaear yn cynyddu yn raddol iawn.