Indonesia

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Republik Indonesia
Gweriniaeth Indonesia
Baner Indonesia Arfbais Indonesia
Baner Arfbais
Arwyddair: Bhinneka Tunggal Ika
(Undod mewn Amrywiaeth)
Anthem: Indonesia Raya
Lleoliad Indonesia
Prifddinas Jakarta
Dinas fwyaf Jakarta
Iaith / Ieithoedd swyddogol Bahasa Indonesia
Llywodraeth Gweriniaeth
 • Arlywydd Susilo Bambang Yudhoyono
Annibyniaeth
 • Datganwyd
 • Cydnabuwyd
Oddiwrth yr Iseldiroedd
17 Awst 1945
27 Rhagfyr 1949
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
1,904,569 km² (16fed)
4.85
Poblogaeth
 - Amcangyfrif 2005
 - Cyfrifiad 2000
 - Dwysedd
 
222,781,000 (4fed)
206,264,595
117/km² (84fed)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif 2005
$977.4 biliwn (15fed)
$4,458 (110fed)
Indecs Datblygiad Dynol (2004) 0.711 (108fed) – canolig
Arian cyfred Rupiah (IDR)
Cylchfa amser
 - Haf
(UTC+7 i +9)
Côd ISO y wlad .id
Côd ffôn +62

Ynysfor mwyaf y byd yw Gweriniaeth Indonesia neu Indonesia. Mae'r wlad hon yn gorwedd rhwng cyfandiroedd Asia ac Awstralia yn ogystal â rhwng Cefnfor India a'r Cefnfor Tawel. Y gwledydd cyfagos yw Malaysia (ceir ffin rhyngddynt ar ynys Borneo, Kalimantan yw enw'r rhan sy'n perthyn i Indonesia), Papua Guinea Newydd (ceir ffin rhyngddynt ar ynys Guinea Newydd, sef ynys Irian yn Bahasa Indonesia) a Dwyrain Timor (ceir ffin rhyngddynt ar ynys Timor).

Ynysoedd[golygu]

Mae gan Indonesia 18,108 o ynysoedd, gyda phobl yn byw ar tua 6,000 ohonynt. Mae'r ynysoedd sy'n perthyn yn gyfangwbl i Indonesia yn cynnwys:

Mae'r brifddinas, Jakarta, ar ynys Jawa. Jakarta yw'r ddinas fwyaf, yn cael ei dilyn gan Surabaya, Bandung, Medan, a Semarang.

Taleithiau[golygu]

Rhennir Indonesia yn 33 o daleithiau:

Talaith Prifddinas
Nanggroe Aceh Darussalam Banda Aceh
Gogledd Sumatra Medan
Gorllewin Sumatra Padang
Riau Pekanbaru
Ynysoedd Riau Tanjung Pinang
Jambi Jambi
Bengkulu Bengkulu
De Sumatra Palembang
Bangka-Belitung Pangkal Pinang
Lampung Bandar Lampung
Ardal Arbennig y Brifddinas Jakarta Jakarta
Banten Serang
Gorllewin Java Bandung
Canolbarth Java Semarang
Ardal Arbennig Yoggyakarta Yogyakarta
Dwyrain Java Surabaya
Bali Denpasar
Gorllewin Nusa Tenggara Mataram
Dwyrain Nusa Tenggara Kupang
Gorllewin Kalimantan Pontianak
Canolbarth Kalimantan Palangkaraya
De Kalimantan Banjarmasin
Dwyrain Kalimantan Samarinda
Gogledd Sulawesi Manado
Gorontalo Gorontalo
Canolbarth Sulawesi Palu
De-ddwyrain East Sulawesi Kendari
De Sulawesi Makassar
Gorllewin Sulawesi Mamuju
Maluku Ambon
Gogledd Maluku Ternate
Papua Jayapura
Gorllewin Papua Manokwari

Hanes[golygu]

Prif erthygl: Hanes Indonesia.

Morwyr o Portiwgal oedd yr Ewropeaid cyntaf i gyrraedd ynysoedd Indonesia yn 1512. Dilynwyd hwy gan fasnachwyr o'r Iseldiroedd a Phrydain. Yn 1602 sefydlwyd Cwmni India'r Dwyrain yr Iseldiroedd (VOC), a'r cwmni yma oedd y pwer mawr yn yr ynysoedd hyd 1800, pan ddaethant yn rhan o ymerodraeth yr Iseldiroedd dan y llywodraeth.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd meddiannwyd yr ynysoedd gan Japan. Ar ddiwedd y rhyfel yn Awst 1945, cyhoeddodd y cenedlaetholwyr Indonesaidd, dan arweiniad Sukarno, wladwriaeth annibynnol. Ceisiodd yr Iseldiroedd ad-ennill grym, ond wedi cryn dipyn o ymladd gorfodwyd hwy i gydnabod annibyniaeth Indonesia yn Rhagfyr 1949.

Bu Sukarno yn arlywydd hyd 1968. Gwanychwyd ei safle yn ddirfawr gan ddigwyddiadau 30 Medi 1965, pan laddwyd chwech cadfridog yn yr hyn a hawlid oedd yn ymgais gan Blaid Gomiwnyddol Indonesia (PKI) i gipio grym. Ymatebodd y fyddin, dan arweiniad y cadfridog Suharto, trwy ladd miloedd lawer o gomiwnyddion ac eraill y dywedid eu bod mewn cydymdeimlad â hwy. Credir i rhwng 500,000 a miliwn o bobl gael eu lladd. Daeth Suharto yn arlywydd yn ffurfiol ym mis Mawrth 1968.

Yn ystod cyfnod Suharto bu tŵf economaidd sylweddol, ond effeithiwyd ar yr economi yn ddifrifol gan broblemau economaidd Asia yn 1997 a 1998. Cynyddodd protestiadau yn erbyn Suharto, ac fe'i gorfodwyd i ymddiswyddo ar 21 Mai 1998. Yn 1999 pleidleisiodd Dwyrain Timor i adael Indonesia a dod yn wladwriaeth annibynnol.

Yn dilyn ymddiswyddiad Suharto, sefydlwyd trefn fwy democrataidd, a chynhaliwyd yr etholiad uniongyrchol cyntaf i ddewis Arlywydd yn 2004.

Arlywyddion Indonesia[golygu]

Ecoleg[golygu]

Orangutan Sumatra, rhywogaeth sydd mewn perygl o ddiflannu

Oherwydd maint a hinsawdd drofannol Indonesia, yma y ceir y lefel ail-fwyaf o fioamrywiaeth yn y byd; dim ond Brasil sydd a lefel uwch. Ar yr ynysoedd gorllewinol, ceir anifeiliad tebyg i'r rhai ar gyfandir Asia. Mae nifer o'r rhywogaethau o famaliaid mawr megis Teigr Sumatra, Rheinoseros Java, yr Orangutan, yr Eliffant ac eraill mewn perygl o ddiflannu. Mae llawer o'r fforestydd trofannol wedi eu colli yn y blynyddoedd diwethaf, oherwydd torri coed, llawer ohono yn anghyfreithlon, a llosgi'r coed yn fwriadol.

Disgrifiodd y naturiaethwr o Gymro, Alfred Russel Wallace, y llinell rhwng rhywogaethau Asiaidd a rhywogaethau Awstralaidd, a elwir yn Linell Wallace. Mae'n gwahanu Kalimantan a Sulawesi, yna'n gwahanu Lombok a Bali. I'r dwyrain o'r llinell yma, mae'r anifeiliaid a phlanhigion o fathau Awstralaidd.

Economi[golygu]

Roedd Indonesia un un o'r aelodau a sefydlodd ASEAN yn 1967.

Albwm[golygu]

Flag of Indonesia.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Indonesia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am Indonesia
yn Wiciadur.