Jalal al-Din Muhammad Rumi

Oddi ar Wicipedia
Jalal al-Din Muhammad Rumi
Ffugenwخاموش Edit this on Wikidata
Ganwyd30 Medi 1207 Edit this on Wikidata
Vakhsh Edit this on Wikidata
Bu farw17 Rhagfyr 1273 Edit this on Wikidata
Konya Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, Ysgolhaig Islamaidd, ysgrifennwr, llenor, athronydd, cyfrinydd, diwinydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amSeven Sessions, Fihi Ma Fihi, Masnavi, Diwan-e Shams-e Tabrizi, Maktubat Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadShams Tabrizi, Ibn Arabi, Abdul Qadir Gilani Edit this on Wikidata
TadBaha ud-Din Walad Edit this on Wikidata
PriodGawhar Khatun Edit this on Wikidata
PlantSultan Walad Edit this on Wikidata

Bardd telynegol a chyfrinydd oedd Jalal al-Din Muhammad Rumi neu Jalaluddin Rumi (Perseg: مولانا جلال الدین محمد رومی‎ , Twrceg: Mevlânâ Celâleddin Mehmed Rumi) ) (Rumi: Mohammed Ibn Mohammed, 1207 - 1273), a aned yn Balkh ym Mhersia Fawr (rhan o Affganistan heddiw). Cafodd y llysenw 'Rumi' ("Rhufeinig") am ei fod yn byw am y rhan fwyaf o'i oes mewn rhan o Asia Leiaf a oedd yn dal i fod dan reolaeth yr Ymerodraeth Fysantaidd ar y pryd. Ei enw poblogaidd yn Nhwrci yw Mevlana.

Ymsefydlodd Rumi yn ninas Iconium (Konya heddiw) yn Nhwrci yn 1226 a sefydlu enwad newydd a adnabyddir heddiw fel y "Derfishiaid Chwyrlïol".

Fel llenor yn yr iaith Berseg cyfansoddai nifer o gerddi telynegol, cyfriniol eu naws, a geir yn y casgliad Divani Shamsi Tabriz. Mae'r rhan fwyaf ar ffurf ghazalau (math o ganeuon serch) i'w feistr cyfriniol Shamsi Tabriz ("Haul Tabriz"); telynegau am gariad wedi'i drawsnewid yn gariad dwyfol ydynt. Ysgrifennodd yn ogystal arwrgerdd ar ddysgeidiaeth y Swffiaid, Masnavi y ma' navi.

Mae ei goleg (medresa) a'i feddrod i'w gweld yn ninas Konya ac yn ganolfan pererindod hyd heddiw.

Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am Islam. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.