Sefydliad Diogelwch a Chydweithrediad Ewrop

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Gwledydd OSCE

Sefydliad rhyngwladol yw Sefydliad Diogelwch a Chydweithrediad Ewrop (OSCE; Saesneg: Organization for Security and Co-operation in Europe). Ei waith yw rhybydd cynnar, atal gwrthdaro, goruchwyliaeth argyfwng ac ailsefydlu ar ôl gwrthdaro yn Ewrop.

Lleolir pencadlys y sefydliad yn Fienna, Awstria, a cheir swyddfeydd ganddo yn ninasoedd Copenhagen, Genefa, Den Haag, Prag a Warszawa (Warsaw).

Aelodau[golygu]

Mae 56 o wledydd Ewrop, Gogledd America, y Cawcasws a Chanolbarth Asia yn aelodau o'r OSCE:

Albania, Yr Almaen, Andorra, Armenia, Awstria, Aserbaijan, Belarws, Gwlad Belg, Bosnia a Hertsegofina, Bwlgaria, Canada, Kazakstan, Croatia, Cyprus, Kyrgyzstan, Denmarc, y Deyrnas Unedig, Yr Eidal, Estonia, Dinas y Fatican, Y Ffindir, Ffrainc, Georgia, Gwlad Groeg, Hwngari, Gwlad yr Iâ, Yr Iseldiroedd, Iwerddon, Latfia, Liechtenstein, Lithwania, Lwcsembwrg, Gweriniaeth Macedonia, Malta, Moldofa, Monaco, Montenegro, Norwy, Portiwgal, Gwlad Pwyl, Romania, Rwsia, San Marino, Sbaen, Serbia, Slofacia, Slofenia, Sweden, Y Swistir, Tajikistan, Unol Daleithiau America, Y Weriniaeth Tsiec, Twrci, Twrcmenistan, yr Wcrain, ac Uzbekistan.

Hanes[golygu]

Sefydlwyd yr OSCE ym 1973 fel Cynhadledd ar gyfer Diogelwch a Chydweithrediad yn Ewrop (CSCE). Roedd dadl am gael sefydliad diogelwch yn Ewrop wedi cychwyn yn y 1950au, ond roedd hi'n anodd dod i benderfyniad oherwydd y Rhyfel Oer.

Er hynny, dechreuwyd y CSCE yn Helsinki, y Ffindir ar 3 Gorffennaf, 1973 ac anfonodd 35 o wledydd gynrychiolwyr. Yn ystod y gynhadledd, a barhaodd am 5 diwrnod, cytunodd pawb i ddilyn y "Llyfr Glas", adroddiad yn cymeradwyo proses y dadl. Cafwyd yr ail gynhadledd yng Ngenefa. Dechreuodd ar 18 Medi, 1973 a goffen ar 21 Gorffennaf, 1975. Yn ystod y drydedd gynhadledd, o 30 Gorffennaf hyd 1 Awst, 1975, arwyddodd y gwledydd a fu'n bresennol Cytundeb Terfynol Helsinki (Helsinki Final Act).

Cafwyd sawl cynhadledd ar ôl hynny. Y pwysicaf oedd cynhadleddau Beograd (4 Hydref, 1977 - 8 Mawrth, 1978), Madrid (11 Tachwedd, 1980 - 9 Medi, 1983), a Vienna (4 Tachwedd, 1986 - 19 Ionawr, 1989).

Golygodd cwymp comiwnyddiaeth yn nwyrain Ewrop a'r USSR rôl newydd i'r CSCE. O ganlyniad, arwyddwyd Siarter Paris dros Ewrop Newydd (Paris Charter for a New Europe) ar 21 Tachwedd, 1990, a newidwyd enw'r sefydliad i OSCE ar 1 Ionawr, 1995.

Cafwyd cynhadledd OSCE yn Istanbwl ar 19 Tachwedd, 1999 er mwyn datrys problemau'r anghydfod yn Chechnya a derbyn Siarter Diogelwch Ewrop (Charter for European Security).

Gweler hefyd[golygu]