Norwy

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Kongeriket Norge
Kongeriket Noreg

Teyrnas Norwy
Baner Norwy Arfbais Norwy
Baner Arfbais
Arwyddair: Alt for Norge
(Norwyeg: "Popeth dros Norwy”)
Anthem: Ja, vi elsker dette landet
Lleoliad Norwy
Prifddinas Oslo
Dinas fwyaf Oslo
Iaith / Ieithoedd swyddogol Norwyeg 1
Llywodraeth Brenhiniaeth gyfansoddiadol
 • Brenin
 • Prif Weinidog
Harald V
Erna Solberg
Annibyniaeth

 • Datganwyd
 • Cydnabuwyd
oddi wrth yr undeb gyda Sweden
 7 Mehefin 1905
26 Hydref 1905
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
324,186 2 km² (67fed)
6.0
Poblogaeth
 - Amcangyfrif 2014
 - Cyfrifiad 2001
 - Dwysedd
 
4,629,566 (116fed)
5,109,056
13.26/km² (blwyddyn_CMC_PGP = 2005)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif [[{{{blwyddyn_CMC_PGP}}}|{{{blwyddyn_CMC_PGP}}}]]
$194.7 biliwn (42fed)
$42,056 (2ain)
Indecs Datblygiad Dynol (2003) 0.955 (1st) – uchel
Arian cyfred Krone Norwy (NOK)
Cylchfa amser
 - Haf
CET (UTC+1)
CEST (UTC+2)
Côd ISO y wlad .no 3
Côd ffôn +47
1 Bokmål a Nynorsk. Hefyd Sami a Ffineg

2 <excluding> Svalbard a Jan Mayen

3 Hefyd .sj (Svalbard a Jan Moyen) a .bv (Bouvetøya)

Mae Teyrnas Norwy neu Norwy yn wlad ar ochr ddwyreiniol Môr y Gogledd. Ynghyd a'i chymydog Sweden i'r dwyrain, mae'n un o wledydd Llychlyn.

Hanes[golygu]

Prif Erthygl: Hanes Norwy

O dan y Llychlynwyr (Vikings yn Saesneg) unwyd y wlad erbyn yr 11eg ganrif. Ym 1387 bu farw brenin olaf y linell Norwyaidd, a daeth y wlad o dan reolaeth Denmarc. Gelwid yr adeg yma yn 'noson 400 mlynedd' gan y Norwywyr, gan fod Norwy yn bartner gwan yn yr undeb. Ym 1814, ar ôl i Ddenmarc gefnogi Napoleon yn y rhyfeloedd Ewropeaidd, daeth Sweden i reoli Norwy. Blinodd y Norwywyr ar reolaeth Sweden, ac ym 1905 daeth Norwy yn annibynnol wrth i'r llywodraeth gynnig brenhiniaeth y wlad i Dywysog Carl o Ddenmarc, a ddaeth yn frenin y wlad newydd, gan gymeryd yr enw Haakon VII.

Yn yr Ail Ryfel Byd fe wnaeth byddinoedd yr Almaen o dan Adolf Hitler oresgyn Norwy, ac oherwydd hyn daeth y wlad yn aelod o NATO ym 1949 er mwyn diogelwch. Roedd hefyd yn aelod o'r Cenhedloedd Unedig o'r dechrau. Mae Norwy yn aelod o EFTA ac Ardal Economaidd Ewrop, ond mae'r etholaeth wedi pleidleisio dwywaith (ym 1972 ac ym 1994) yn erbyn ymuno a'r Undeb Ewropeaidd.

Gwleidyddiaeth[golygu]

Prif Erthygl: Gwleidyddiaeth

Mae Norwy yn frenhiniaeth ond mae'r pŵer gwleidyddol yn nwylo'r senedd, y Storting. Mae'r gyfundrefn yn debyg i'r hyn a gaed yn y Deyrnas Unedig, gan fod ambell i swyddogaeth pwysig gan y brenin, ond fe'u defnyddir trwy gyngor y Cabinet fel arfer.

Mae 165 o aelodau gan y Storting. Fe etholir yr aelodau drwy gynrychiolaeth gyfrannol o'r 19 sir yn y wlad, am gyfnodau o bedair mlynedd. Ar ôl etholiadau, mae'r Storting yn rhannu'n ddau siambr—yr Odelsting a'r Lagting—sydd weithiau'n cwrdd ar wahan, ac weithiau gyda'i gilydd, yn ôl y deddfwriaeth sy'n cael ei ddadlau.

Siroedd a Threfedigaethau[golygu]

Rhennir Norwy'n 19 sir (fylke, lluosog fylker), sydd yn eu tro yn cael eu rhannu'n 434 cymuned (kommuner). Dyma restr o'r siroedd:

Yn ogystal â hyn, mae gan Norwy nifer o diriogaethau ar draws y byd. Ystyrir ynysoedd Svalbard a Jan Mayen i'r gogledd a'r gogledd-ddwyrain o'r wlad yn rannau o'r deyrnas. Ar y llaw arall, ystyrir Ynys Bouvet i'r de o Affrica fel trefedigaeth ar wahan i'r deyrnas ei hunan.

Mae Norwy yn hawlio rhan o dir Antarctica (Dronning Maud Land ac Ynys Pedr I) ond mae'r hawliau hyn bellach yn cael eu anwybyddu ar ôl cytundeb rhyngwladol.

Daearyddiaeth[golygu]

Prif Erthygl: Daearyddiaeth Norwy

Lleoliad Norwy yn Ewrop

Mae tua dwy rhan o dair o dir Norwy yn fynyddoedd, ac mae rhyw 50,000 o ynysoedd yn eistedd ger yr arfordir troellog, sydd dros 20,000 km o hyd. Mae olion Oes yr Iâ i'w weld, gyda sawl ffiord a nifer o rewlifoedd.

Mae Norwy yn rhannol o fewn Cylch yr Arctig, sydd yn golygu nad yw'r haul yn machlud yno am ran o'r haf. Serch hyn, mae'r hinsawdd yn cael ei gadw'n gynnes oherwydd dylanwad Llif y Gwlff, sef llif cynnes o ddŵr a daw o'r trofannau.

Mannau uchaf Norwy yw mynyddoedd Glittertinden (2472m) a Galdhøpiggen (2469m), yng nghadwyn Jotunheimen.

Economi[golygu]

Prif Erthygl: Economi Norwy

Mae Norwy yn wlad llewyrchus, yn bennaf efallai oherwydd fod digonedd o adnoddau naturiol ganddi. Ceir llawer o nwy naturiol ac olew crai yn o dan Môr y Gogledd, ac mae'r wlad yn dibynnu'n gryf ar y diwydiant olew—hwn sy'n creu 35% o holl allforion y wlad. Ond mae diwydiannau eraill pwysig gan Norwy—er enghraifft y diwydiant pysgota. Ceisiodd Norwy ymuno âr Undeb Ewropeaidd (UE) dwywaith, ond methodd y cynlluniau am na fod Norwy am ildio rheolaeth ar y diwydiant hwn. Serch hyn mae Norwy yn aelod o farchnad cyffredin yr UE drwy cytundeb Ardal Economaidd Ewrop.

Mae gan Norwywyr safon uchel o fyw, yn bennaf oherwydd yr arian o'r diwydiant olew. Roedd pryder felly beth fyddai'n digwydd ar ôl i'r olew ddiflannu. I ddatrys y broblem, mae llywodraeth Norwy wedi bod yn buddsoddi rhan o'i hennillion o'r diwydiant mewn cronfa dramor, sy'n cynnwys (ym mis Tachwedd 2003) 114 biliwn doler Americanaidd.

Diwylliant[golygu]

Prif Erthygl: Diwylliant Norwy

Mae dau ffurf ysgrifenedig i'r iaith Norwyeg, Bokmål (iaith llyfr) a Nynorsk (Norwyeg newydd). Enw'r wlad yw Norge yn Bokmål, a Noreg yn Nynorsk. Er fod y ddwy iaith yn swyddogol, y Bokmål traddodiadol sy'n fwy cyffredin. Yn y gogledd, siaredir sawl iaith Saami gan bobl y Saami; mae'r iaith hon yn gwbl wahanol i'r Norwyeg.

Mae 86% o boblogaeth Norwy yn perthyn i eglwys swyddogol Norwy, sy'n eglwys Lwtheraidd.

Dethlir diwrnod cenedlaethol Norwy ar 17 Mai. Ar y diwrnod hwnnw mae llawer o'r Norwyiaid yn gwisgo bunad (gwisg draddodiadol) ac yn gwylio gorymdeithiau ar hyd y strydoedd.

Norwywyr enwog:

Gweler hefyd[golygu]

Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am Norwy
yn Wiciadur.