Edvard Grieg
Cyfansoddwr a phianydd o Norwy oedd Edvard Hagerup Grieg [ˈɛdʋɑʁd ˈhɑːgəʁʉp ˈgʁɪg] (15 Mehefin 1843, Bergen - 4 Medi 1907).
Caiff ei adnabod yn bennaf am ei Goncerto Piano mewn A Leiaf ac am ddarnau achlysurol (incidental music) megis Peer Gynt a gyfansoddodd ar gyfer drama Henrik Ibsen; (sy'n cynnwys y darn Morning Mood a In the Hall of the Mountain King). Caiff ei gofio hefyd am ei weithiau bach Lyric Pieces.[1]
Bywgraffiad[golygu]
Ganwyd Edvard Hagerup Grieg yn Bergen, Norwy, ar 15 Mehefin 1843. Marchnatwr oedd ei dad Alexander Grieg (1806–1875), yn Bergen, ac enw'i fam oedd Gesine Judithe Hagerup (1814–1875), a oedd yn athrawes gerdd ac yn ferch i Edvard Hagerup.[2][3] Sillafwyd y cyfenw'n wreiddiol yn "Greig", enw a ellir ei olrhain i'r Alban. Roedd hen-daid Greig yn filwr ym Mrwydr Culloden ym 1746 ond a deithiodd lawer tan iddo ymsefydlu yn Norwy ym 1770.
Cyfeiriadau[golygu]
- ↑ Edvard Grieg (Store norske leksikon)
- ↑ Benestad, Finn. "Edvard Grieg". In Helle, Knut (in Norwyeg). Norsk biografisk leksikon. Oslo: Kunnskapsforlaget. http://www.snl.no/.nbl_biografi/Edvard_Grieg/utdypning. Adalwyd 10 Medi 2011.
- ↑ Benestad; Schjelderup-Ebbe (1990) [1980]. pp. 25–28