Pegwn y De

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Pegwn seremonïol y De

Pegwn y De yw pwynt mwyaf deheuol y Ddaear; y De absoliwt, cymar deheuol Pegwn y Gogledd. Does dim un safle penodol i Begwn y De, ond mae ei lleoliad yn cael ei ddiffinio mewn pedair ffordd wahanol. Mae Pegwn y De ar gyfandir yr Antarctig.

Pegwn daearyddol y De[golygu]

Pegwn y De daearyddol yw'r echel o gwmpas yr hwn y mae'r ddaear yn troi.

Y Norwywr Roald Amundsen oedd y dyn cyntaf i gyrraedd Pegwn y De. Cyrhaeddod ar 14 Rhagfyr, 1911. Cyrhaeddodd Capten Scott un mis ar ôl hynny, ond yn ystod ei daith yn ôl bu farw Scott a'i griw o newyn a'r oerni.

Ar ôl hynny aeth nifer o bobl eraill i'r pegwn, yn cynnwys Fuchs, Havola, Crary, a Fiennes.

Richard Byrd oedd y dyn cyntaf i hedfan uwchben Pegwn y De, ar (29 Tachwedd, 1929).

Pegwn magnetaidd y De[golygu]

Pegwn y de magnetaidd yw'r cyfeiriad y mae cwmpawd neu ben magned yn pwyntio iddo.

Ernest Shackleton oedd y dyn cyntaf i gyrraedd Pegwn magnetaidd y De ar (16 Ionawr, 1909)

Pegwn daear-fagnetaidd y De[golygu]

Mae Pegwn daear-fagnetaidd y De (pegwn magnetaidd amgen) ger Pegwn daearyddol y De.

Pegwn mwyaf anghysbell y De[golygu]

Mae'r pegwn hwn yn gorwedd ar hydred 85°50' (de) a lledred 65°47' (dwyrain). Dyma'r lle pellach o'r môr ar y cyfandir. Ym 1957 cyrhaeddodd tîm o'r Undeb Sofietaidd y lle i godi'r orsaf Sovetskaya. Roedd pobl yn byw yn yr orsaf yn ystod haf antarctigaidd 1957 - 1958.

Gweler hefyd[golygu]