Hydred

Oddi ar Wicipedia
Y linell glas yw'r cyhydedd, y llinellau dotiog glas yw'r llinellau lledred a'r llinellau melyn yw'r llinellau hydred

Llinell o begwn y gogledd i begwn i de sydd yn dangos pa mor bell yw hi i'r Prif Feridian yng Ngreenwich yw hydred. Mae'r Prif Feridian ar hydred o 0°, ac mae hynny'n codi wrth fynd i'r gorllewin neu i'r dwyrain, hyd at 180°. Beth bynnag, er fod y cyhydedd yn le naturol i benderfynu lledred, gan nad oes lle felly ar gyfer penderfynu hydred mae'n rhaid dewis rhywle i roi'r Prif Feridian. Oherwydd nerth yr Ymerodraeth Brydeinig ar yr adeg y penderfynwyd hyn, dewiswyd yr Arsyllfa Frenhinol, Greenwich yn Llundain (Lloegr). Serch hynny, cyn y Cynhadledd Meridian Rhyngwladol ym 1884 pryd wnaeth bawb cytuno defnyddio prif feridian Greenwich, roedd Prif Feridianau eraill yn bodoli: Ferro, Rhufain, Copenhagen, Jeriwsalem, St Petersburg, Pisa, Paris, a Philadelphia.

Mae hi'n ddigon anodd mesur hydred, ac roedd hynny'n broblem fawr mewn cartograffeg a mordwyo am ganrifoedd. Ym 1681 cyhoeddodd Giovanni Cassini dull mesur sydd yn defnyddio lloerenni naturol Sadwrn. Ar longau, roedd pobl yn defnyddio secstant neu octant i benderfynu pryd roedd yr haul yn ei anterth—ac felly pryd oedd canol dydd yn y fan honno. Trwy gymharu'r amser yma i gronometr a oedd yn dangos amser Greenwich a thablau seryddiaethol penderfynid lleoliad y llong.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]