Robert Falcon Scott
Oddi ar Wicipedia
Fforiwr a morwr Seisnig oedd Capten Robert Falcon Scott (6 Mehefin 1868 - 29 Mawrth 1912). Roedd yn dad i'r naturiaethwr Syr Peter Scott.
Cafodd ei eni yn Plymouth, Lloegr, yn fab i John Edward Scott, bragwr, a'i wraig Hannah (née Cuming) Scott. Cyrhaeddodd Capten Scott Begwn y De fis ar ôl y Norwywr Roald Amundsen a bu Scott a'i dîm farw yn Antartica yn cynnwys Edgar Evans, Lawrence Oates, Henry Bowers ac Edward Wilson).