Pegwn y Gogledd

Oddi ar Wicipedia
1: Pegwn y gogledd ddaearyddiaethol
2: Pegwn y gogledd magnetaidd
3: Pegwn y gogledd daear-fagnetaidd
4: Pegwn y gogledd anghyraeddadwydod

Ar y ddaear, mae pedair ffordd o ddiffinio [[../]]. Lleolir pob un o'r rhain yn y Môr Arctig):

Diffiniadau[golygu | golygu cod]

Pegwn daearyddiaethol y gogledd[golygu | golygu cod]

Mae pegwn daearyddiaethol y gogledd yn 90 gradd i'r gogledd. Ar yr echel hon mae'r ddaear yn troi. Does dim tir yn y lleoliad hwn, ond fel arfer mae meysydd iâ.

Gwnaed y daith gyntaf i begwn daearyddiaethol y gogledd gan Robert Peary, Matthew Henson a phedwar Inuit, sef Ootah, Seegloo, Egingway ac Ooqueah. Credir iddyn nhw gyrraedd ar 9 Ebrill, 1909 er i rai honni y cyrhaeddon nhw mewn gwirionedd 30 km i'r de. Ym 1926, hedfanodd Roald Amundsen o Norwy dros begwn daearyddiaethol y gogledd mewn awyrlong.

Yr Aurora borealis

Pegwn magnetaidd y gogledd[golygu | golygu cod]

Mae pegwn magnetaidd y gogledd ar 78°18' i'r gogledd, 104° i'r gorllewin ger Ynys Ellef Ringness, un o'r Ynysoedd Queen Elizabeth yn Canada. Dyma lle mae cwmpawd neu un pen o fagnet yn wynebu. Defnyddir pegwn magnetaidd y gogledd ers 1600.

Roedd y daith gyntaf i begwn magnetaidd y gogledd gan James Clark Ross. Cyrhaeddodd y pegwn ar 1 Mehefin, 1831. Darganfu Roald Amundsen i'r pegwn fod mewn lleoliad ychydig yn wahanol ym 1903. Ers hyn, sylweddolwyd i'r pegwn yn flynyddol, tua 40 km pob blwyddyn.

Pegwn daear-fagnetaidd y gogledd[golygu | golygu cod]

Mae pegwn y gogledd daear-fagnetaidd ar 78°30' i'r gogledd, 69° i'r gorllewin, ger Thule a'r Ynys Las. Yma, gellir gweld yr Aurora Borealis.

David Hempleman-Adamsaith oedd y cyntaf i gyrraedd y pegwn hwn ym 1992.

Pegwn mwyaf anghysbell y gogledd[golygu | golygu cod]

Mae pegwn mwyaf anghysbell y gogledd ar 84°03' i'r gogledd, 174°51' i'r gorllewin. Dyma'r lle pellaf o bob arfordir yn y Môr Arctaidd)

Hedodd Syr Hubert Wilkins dros y pegwn hwn ym 1927 ac ym 1958 cyrhaeddodd llong o Rwsia'r lle.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]