Roald Amundsen

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Roald Amundsen
anturiaethwr
RoaldAmundsen.JPG
Geni:
 
16 Gorffennaf 1872
   Borge, Norwy
Marw:
 
18 Mehefin 1928
   Môr yr Arctig

Roedd Roald Engelbregt Gravning Amundsen (16 Gorffennaf 1872 - 18 Mehefin 1928) yn anturiaethwr o Norwy a deithiodd o gwmpas yr Arctig ac Antarctica.

Mae'n fwyaf enwog am gyrraedd Pegwn y De cyn unrhyw ddyn arall, a hynny ar 14 Rhagfyr 1911 gyda chriw o ddynion. Fe'i ddilynwyd gan y Sais Robert Falcon Scott, 35 o ddiwrnodau'n hwyrach.

Bu farw mewn damwain awyren dros Fôr yr Arctig ym Mehefin 1928 tra'n ceisio achub yr Eidalwr Umberto Nobile, a oedd yn ceisio hedfan dros Begwn y Gogledd mewn llong awyr. Ni ddarganfuwyd awyren Amundsen.

Mae Gorsaf Amundsen-Scott ar Begwn y De, Môr Amundsen oddi ar Antarctica, a Chrater Amundsen ar wyneb y Lleuad, i gyd wedi'u enwi ar ei ol.


Baner NorwyEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Norwyad. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.