Svalbard

Oddi ar Wicipedia
Svalbard
Mathynysfor, tiriogaeth dramor gyfannol, is-adran weinyddol gwlad lefel gyntaf Edit this on Wikidata
PrifddinasLongyearbyen Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,668 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethKjerstin Askholt Edit this on Wikidata
Cylchfa amserCET Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Norwyeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirNorwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Norwy Norwy
Arwynebedd61,022 ±1 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr1,713 metr Edit this on Wikidata
GerllawMôr Norwy Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau78.16°N 15.86°E Edit this on Wikidata
NO-21 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Governor of Svalbard Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethKjerstin Askholt Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethTentative World Heritage Site Edit this on Wikidata
Manylion
Ariankrone Norwy Edit this on Wikidata

Ynysfor yn yr Arctig sy'n perthyn i Norwy yw Svalbard. Cyfeirir ato'n aml, yn anghywir, fel Spitsbergen ar ôl yr ynys fwyaf. Yr ynysoedd hyn yw'r rhan fwyaf gogleddol o Norwy. Dim ond ar dair o'r ynsoedd, Spitsbergen, Bjørnøya a Hopen, y mae poblogaeth barhaol. Yn ôl amcangyfrif 2019 roedd gan Svalbard boblogaeth o 2,939.[1] Longyearbyen yw'r tref fwyaf a phrifddinas yr ynysoedd.

Yr ynysoedd mwyaf yw Spitsbergen (39.000 km²), Nordaustlandet (14.600 km²) ac Edgeøya (5.000 km²); mewn cymhariaeth mae arwynebedd Ynys Môn yn 714 km². Ymhlith yr ynysoedd eraill mae Barentsøya, Lågøya, Hopen, Danskøya, Kvitøya a Wilhelmøya. Y copa uchaf yw Newtontoppen (1,717 medr). Gorchuddir 60% o Svalbard gan rew. Ceir nifer fawr o adar yma, ac mae Svalbard yn arbennig o bwysig oherwydd y niferoedd o'r Ŵydd wyran (Branta leucopsis) a'r Ŵydd droedbinc sy'n nythu yma.

Lleoliad Svalbard
Ynysoedd Svalbard

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. City Population; adalwyd 29 Rhagfyr 2022
Eginyn erthygl sydd uchod am Norwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.