Svalbard a Jan Mayen

Oddi ar Wicipedia
Svalbard a Jan Mayen
Mathendid tiriogaethol (ystadegol) Edit this on Wikidata
LL-Q58635 (pan)-Gaurav Jhammat-ਸਵਾਲਬਾਰਡ ਅਤੇ ਯਾਨ ਮਾਏਨ.wav Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,905 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Norwyeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolGogledd Ewrop Edit this on Wikidata
SirNorwy Edit this on Wikidata
GwladNorwy Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau78.635166°N 21.993908°E Edit this on Wikidata
Map

Enw ystadegol ar ddwy ynys yn Norwy yw'r term Svalbard a Jan Mayen (Norwyeg: Svalbard og Jan Mayen) neu Ynysoedd Svalbard a Jan Mayen a ddiffinir gan ISO 3166-1 i gyfeirio at ddwy ran o Norwy sy'n ddau uned weinyddol ar wahân, sef ynysoedd Svalbard a Jan Mayen. Mae hyn wedi arwain at greu'r côd gwlad parth lefel uchaf ar y rhyngrwyd rhyngwladol hefyd, sef .sj, er bod y tiriogaethau hyn yn rhan o Norwy ei hun.

Mae Svalbard yn archipelago yng Nghefnfor yr Arctic sydd dan sofraniaeth lawn Norwy ond sy'n mwynhau statws arbennig a gafodd mewn canlyniad i Gytundeb Svalbard. Mae Jan Mayen yn ynys anghysbell yng Nghefnfor yr Arctig; does ganddi ddim poblogaeth barhaol ac fe'i gweinyddir gan Lywodraethwr Sirol Nordland. Ffaith arall sydd gan Svalbard a Jan Mayen mewn cyffredin yw'r ffaith eu bod yr unig rannau integreiddiol o Norwy sy ddim yn perthyn i siroedd Norwy. Cynigiodd y Cenhedloedd Unedig côd ISO i Svalbard ei hun, ond awdurdodau Norwy a benderfynodd cynnwys Jan Mayen hefyd yn y côd hwnnw.

Lleoliad Svalbard a Jan Mayen yn Norwy

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Norwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.