Albania

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Republika e Shqipërisë
Gweriniaeth Albania
Baner Albania Arywddlun Albania
Baner Arywddlun
Arwyddair: Dim
Anthem: Himni i Flamurit
(Cymraeg: 'Emyn y Faner')
Lleoliad Albania
Prifddinas Tiranë
Dinas fwyaf Tiranë
Iaith / Ieithoedd swyddogol Albaneg
Llywodraeth Gweriniaeth
 • Arlywydd
 • Prif Weinidog
Bujar Nishani
Edi Rama
Annibyniaeth

- Dyddiad
oddiwrth Ymerodraeth yr Otomaniaid
28 Tachwedd 1912
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
28,748 km² (139fed)
4.7
Poblogaeth
 - Amcangyfrif 2005
 - Dwysedd
 
3,581,655 (130fed)
123/km² (63fed)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif 2007
$19.818 biliwn (112fed)
$6,259 (100fed)
Indecs Datblygiad Dynol (2003) 0.784 (canolig) – 73fed
Arian cyfred Lek (ALL)
Cylchfa amser
 - Haf
CET (UTC+1)
CEST (UTC+2)
Côd ISO y wlad .al
Côd ffôn +355
Map o Albania

Gweriniaeth yn ne-ddwyrain Ewrop yw Gweriniaeth Albania neu Albania. Y gwledydd cyfagos yw Montenegro yn y gogledd, Serbia yn y gogledd-ddwyrain, Macedonia yn y dwyrain a Gwlad Groeg yn y de. Mae ar lân Môr Adria a Môr Ionia. Ei phrif borthladd yw Dürres. Adwaenir pobl Albania fel Albaniaid - nid i'w cymysgu ag Albanwyr, pobl yr Alban.

Daearyddiaeth[golygu]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Daearyddiaeth Albania

Mae Albania yn un o wledydd y Balcanau. Mae hi'n wlad fynyddig iawn a elwir weithiau "Gwlad yr Eryr". Cyfyd y mynyddoedd i uchder o hyd at 2700m (9000 troedfedd). Ceir coedwigoedd sylweddol. Mae'r tir arfordirol yn ffrwythlon iawn.

Mae'r prif ddinasoedd a threfi yn cynnwys Tiranë (y brifddinas), Durrës (y prif borthladd), Shkodër, Shëngjin, Elbasan, Vlorë a Sarandë.

Hanes[golygu]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Hanes Albania

Sefydlwyd Durrës gan y Groegiaid mor bell yn ôl â'r 7fed ganrif CC.

Rhwng diwedd y 15fed a dechrau'r 20fed ganrif bu Albania'n rhan o'r Ymerodraeth Ottoman.

Yn 1912 enillodd Albania ei hannibyniaeth ar yr Ottomoniaid. Yn 1925, yn sgîl rhyfel cartref y cymerodd yr Eidal ran ynddo, aeth y wlad yn weriniaeth. Fodd bynnag troes yn fonarchiaeth unwaith yn rhagor yn 1928 pan gafodd ei harlywydd Ahmed Beg Zogu ei wneud yn frenin ar y wlad dan yr enw cofiadwy Brenin Zog. Cafodd y wlad ei meddianu gan luoedd arfog yr Eidal a'r Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Ar ôl yr Ail Ryfel Byd troes Albania'n wlad gomiwnyddol yn 1946 dan arweinyddiaeth yr unben Enver Hoxha. Ar ôl cyfnod o fod yn gynghrair triw i Stalin, troes Albania i'r Tsieina Faoaidd o 1961 ymlaen.

Pobl a diwylliant[golygu]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Diwylliant Albania
Searchtool.svg
Prif erthygl: Demograffeg Albania

Mae'r mwyafrif o'r Albaniaid yn oerthyn i ddau grŵp ethnig, sef y Ghegiaid (i'r gogledd o Afon Shkumbi) a'r Tosgiaid (i'r de o'r afon honno); ychydig sy'n hysbys am eu gwreiddiau. Albaneg yw'r unig iaith swyddogol. Fel yn achos Cosofo dros y ffin, mae'r mwyafrif o'r dinesyddion yn Fwslemiaid.

Economi[golygu]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Economi Albania

Mewn canlyniad i bolisi ynysigaeth llywodraeth y wlad yn y gorffennol, pan ddibynai Albania i raddau helaeth ar fasnach gyda Tsieina a Gogledd Corea, roedd economi'r wlad yn dlawd iawn mewn cymhariaeth â gweddill Ewrop. Erys Albania yn un o wledydd tlotaf Ewrop heddiw, er bod pethau wedi gwella'n sylweddol gyda chymorth gan Undeb Ewrop.

Prif ddinasoedd a threfi Albania yn ôl poblogaeth[golygu]

  1. Tiranë - 352,900
  2. Durrës - 113,800
  3. Elbasan - 96,800
  4. Shkodër - 85,800
  5. Vlorë - 84,400
  6. Korçë - 58,800
  7. Fier - 55,100
  8. Borshi - 9,500
  9. Kavajë - 40,000
  10. Lushnjë - 38,200
  11. Kavaja: 28.200
  12. Pogradeci: 23.700
  13. Laçi: 23.400
  14. Gjirokastra: 22.800
  15. Patosi: 21.000
  16. Kruja: 19.400
  17. Kuçova: 18.000
  18. Kukësi: 16.600
  19. Lezha: 16.600
  20. Saranda: 14.500
  21. Peshkopia: 14.100
  22. Burreli: 13.900
  23. Cërrik: 13.200
  24. Çorovoda: 13.200
  25. Shijak: 12.800
  26. Librazhdi: 11.500
  27. Tepelenë: 11.300
  28. Gramsh: 10.400
  29. Poliçan: 10.200
  30. Bulqizë: 10.000
  31. Përmet: 9.800
  32. Fushë-Krujë: 9.600
  33. Kamzë: 9.300
  34. Rrëshen: 9.200
  35. Ballsh: 9.100
  36. Mamurras: 7.600
  37. Bajram Curri: 7.500
  38. Ersekë: 7.500
  39. Peqin: 7.200
  40. Divjak: 7.069
  41. Selenicë: 6.900

Dolenni allanol[golygu]

Amryw[golygu]

Gwefannau swyddogol y llywodraeth[golygu]


Gwledydd y Môr Canoldir
Yr Aifft | Albania | Algeria | Bosnia a Hertsegofina | Croatia | Cyprus | Yr Eidal | Ffrainc | Gwlad Groeg | Israel | Libanus | Libya | Malta | Monaco | Montenegro | Moroco | Palesteina | Sbaen | Slofenia | Syria | Tunisia | Twrci


Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am Albania
yn Wiciadur.