Maoaeth

Oddi ar Wicipedia

Ideoleg sy'n seiliedig ar ddysgeidiaeth Mao Zedong, arweinydd Chwyldro Tsieina, yw Maoaeth. Gellid ei hystyried yn ffurf ar Farcsiaeth-Leniniaeth lle rhoddir y pwyslais ar undod y werin amaethyddol a'r gweithwyr diwydiannol dan awdurdod plaid gomiwnyddol. Mae'n perthyn yn agos i Staliniaeth.

Cysylltir Maoaeth â chyfnod arweinyddiaeth unbenaethol Mao Zedong yn Tsieina ac yn enwedig â chyfnod y Chwyldro Diwylliannol yn y wlad honno, ond mabwysiadwyd Maoaeth gan sawl mudiad chwyldroadol arall yn ogystal, yn enwedig yn y "Trydydd Byd". Roedd Enver Hoxha yn Albania yn arddel math o gomiwnyddiaeth sy'n perthyn yn agos i Faoaeth. Yn Indo-Tsieina yng nghyfnod Rhyfel Fietnam cafwyd mudiadau yn arddel ffurfiau ar Faoaeth yn Laos (y Pathet Lao) a Khampuchea (sef y Khmer Rouge). Yn Ne America cafwyd grwpiau fel y Sendero Luminoso ym Mheriw yn ymladd rhyfel herwfilwrol yn erbyn y llywodraeth, â'u gallu yn seileidig ar gefnogaeth gan llafurwyr gwledig a ffermwyr tlodion yng nghefn gwlad Periw. Yn India heddiw ceir sawl plaid a mudiad sy'n arddel Maoaeth, er enghraifft yng Ngorllewin Bengal.

Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.