Enver Hoxha

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Enver Hoxha

Enver Hoxha (16 Hydref, 190811 Ebrill, 1985) oedd arweinydd Albania o ddiwedd yr Ail Ryfel Byd hyd ei farwolaeth yn 1985, yn rhinwedd ei swydd fel Prif Ysgrifenydd y Blaid Lafur Albania Gomiwnyddol. Cafodd ei eni yn Gjirokastër, yn ne Albania.

Yn ogystal â bod yn arweinydd y Blaid Lafur Albanaidd, gwasanaethai fel Prif Weinidog Albania o 1944 hyd 1954 a Gweinidog Materion Tramor o 1946 hyd 1953.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd arweiniodd ymdrech Albania yn erbyn y goresgynwyr Eidalaidd. Yn 1941 sefydlodd Plaid Gomiwnyddol Albania ac roedd yn ysgrifenydd gyffredinol y blaid honno erbyn 1943.

Yn sgîl y toriad â'r Undeb Sofietaidd yn 1961, canlyniad yr anghydfod mawr rhwng yr Undeb Sofietaidd a Gweriniaeth Pobl Tsieina yn yr un flwyddyn, ochrodd Hoxha â Tsieina a throes ei gefn ar y gorllewin a'r Bloc Dwyreiniol fel ei gilydd. Edmygai Mao Zedong yn fawr a cheisiai greu wlad gomiywnyddol seiliedig ar Marcsiaeth-Leniniaeth "bur" ideoleg Mao ac, i raddau, Stalin. Bu'n frwd ei gefnogaeth i Tsieina hyd 1978 ac roedd Albania'n wlad ynysig yn Ewrop yn ystod ei deyrnasiad.

Ar ei farwolaeth yn 1985 fe'i olynwyd gan Ramiz Alia.