Joseff Stalin
Gwleidydd ac unben Sofietaidd oedd Joseff Stalin (18 Rhagfyr 1878, - 5 Mawrth, 1953. Cafodd ei eni yn nhref Gori, Georgia a oedd pryd hynny'n rhan o Ymerodraeth Rwsia - Ei enw gwreiddiol oedd Joseph Vissarionovich Dzhugashvili (Georgeg: იოსებ ჯუღაშვილი; Rwsieg: Ио́сиф Виссарио́нович Джугашвили). Ar bapur, roedd yn Ysgrifennydd Cyffredinol Pwyllgor Canolog Plaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd (1922-1953), ond mewn gwirionedd roedd yn rheoli'r wlad fel unben o 1928 hyd ei farwolaeth. Roedd yn cael ei adnabod ar lafar fel "Wncl Jo".
Bu i'w bolisïau achosi llawer iawn o ddioddef yn yr Undeb Sofietaidd, ac mae'n debyg i'w gyfundrefn achosi tua 10 miliwn o farwolaethau. (Ond noder fod amcangyfrifon yn amrywio o 4 miliwn hyd at 20 miliwn).
Roedd yn un o arweinwyr cynghreiriol yr Ail Ryfel Byd, ynghyd â Winston Churchill a Franklin Roosevelt.
Gweler hefyd [golygu]