Yr Ail Ryfel Byd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Yr Ail Ryfel Byd
Dyddiad 1 Medi, 19392 Medi, 1945
Lleoliad Ewrop, y Cefnfor Tawel, De Ddwyrain Asia, y Dwyrain Canol, y Môr Canoldir ac Affrica
Canlyniad Buddugoliaeth i'r Cynghreiriaid. Creu'r Cenhedloedd Unedig. Ymddangosiad yr Unol Daleithiau a'r Undeb Sofietaidd fel archbwerau. Creu meysydd dylanwad y Byd Cyntaf a'r Ail Fyd yn Ewrop sy'n arwain at y Rhyfel Oer.
Cydryfelwyr
Pwerau Cynghreiriol:

Yr Undeb Sofietaidd Yr Undeb Sofietaidd (1941-45)
Yr Unol Daleithiau Yr Unol Daleithiau (1941-45)
Y Deyrnas Unedig Y Deyrnas Unedig
Gweriniaeth Tsieina Tsieina
Ffrainc Ffrainc
...et al.

Pwerau'r Axis:

Yr Almaen Yr Almaen
Japan Japan (1941-45)
Yr Eidal Yr Eidal
...et al.

Arweinwyr
Yr Undeb Sofietaidd Joseph Stalin (1941-45)

Yr Unol Daleithiau F.D. Roosevelt (1941-45)
Yr Unol Daleithiau Harry S. Truman (1945)
Y Deyrnas Unedig Winston Churchill
Gweriniaeth Tsieina Chiang Kai-shek
...et al.

Yr Almaen Adolf Hitler

Japan Hirohito (1941-45)
Yr Eidal Benito Mussolini (1940-43)
...et al.

Anafusion a cholledion
Meirw milwrol:
Dros 14 000 000
Meirw dinesig:
Dros 36 000 000
Cyfanswm y meirw:
Dros 50 000 000
Meirw milwrol:
Dros 8 000 000
Meirw dinesig:
Dros 4 000 000
Cyfanswm y meirw
Dros 12 000 000
Gweler Cymru a'r Ail Ryfel Byd am effaith y rhyfel ar Gymru.

Yr Ail Ryfel Byd oedd y rhyfel mwyaf eang a chostus mewn hanes. Bu ymladd ar draws rhan helaeth o'r byd, o Norwy hyd ynys Gini Newydd, ac amcangyfrifir i tua 60 miliwn o bobl gael eu lladd neu farw o newyn a achoswyd gan y rhyfel. Ar un ochr yn y rhyfel roedd y Deyrnas Unedig a'r Gymanwlad Brydeinig, Ffrainc, yr Unol Daleithiau, yr Undeb Sofietaidd a Tsieina, gyda nifer o wledydd llai. Cyfeirir at yr ochr yma yn aml fel "y Cyngheiriaid". Ar yr ochr arall roedd yr Almaen, yr Eidal a Siapan, gyda nifer o wledydd llai. Prif ardaloedd y brwydro oedd Ewrop, Dwyrain Asia a'r Cefnfor Tawel.

Nid oes cytundeb ar union ddyddiad dechrau'r rhyfel. Y dyddiad mwyaf cyffredin a dderbynnir yw 1 Medi 1939, pan ymosododd yr Almaen ar Wlad Pwyl, gyda Phrydain a Ffrainc yn cyhoeddi rhyfel ar yr Almaen ddau ddiwrnod yn ddiweddarach. Mae eraill yn crybwyll y 7 Gorffennaf 1937 fel dyddiad dechrau'r rhyfel, pan ymosododd Siapan ar Tsieina ac eraill wedyn yn nodi Mawrth 1939 a'r adeg yr aeth byddinoedd Hitler i mewn i Prague, Tsiecoslofacia. Dim ond yn 1941 y daeth y rhyfel yn wirioneddol fyd-eang. Ym Mehefin y flwyddyn honno, ymosododd yr Almaen ar yr Undeb Sofietaidd, tra ym mis Rhagfyr ymosododd Japan ar lynges yr Unol Daleithiau yn Pearl Harbor. Yn fuan wedyn, cyhoeddodd yr Almaen ryfel ar yr Unol Daleithiau i gefnogi Japan. Ystyrir fel rheol fod y rhyfel wedi dod i ben ar 2 Medi 1945, pan ildiodd Japan i'r Cyngheiriaid.

Roedd technoleg filwrol wedi datblygu yn sylweddol ers y Rhyfel Byd Cyntaf, ac roedd awyrennau wedi dod yn llawer mwy pwysig. Daeth cyrchoedd awyr ar ddinasoedd y gelyn yn elfen bwysig yn strategaeth y ddwy ochr, ac roedd hyn yn un o'r rhesyymau fod y cyfanswm colledion ymhlith y boblogaeth sifil yn llawer uwch yn y rhyfel yma nag yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Daeth y rhyfel i ben pan ollyngodd America fomiau atomig ar ddinasoedd Hiroshima a Nagasaki yn Japan.

Yn ystod y rhyfel hwn lladdwyd miliynau o bobl yng ngwersylloedd crynhoi a gwersylloedd difa yr Almaen. Lladdwyd tua 6 miliwn o Iddewon yn yr Holocost, a niferoedd llai ond sylweddol o nifer o grwpiau eraill. Erbyn diwedd y rhyfel, yr Unol Daleithiau a'r Undeb Sofietaidd oedd y ddau bŵer mawr, gan osod patrwm a barhaodd am rai degawdau. Rhannwyd yr Almaen yn ddwy, rhaniad a barhaodd hyd 1990. Er i'r hen bwerau ymerodrol fel y Deyrnas Unedig a Ffrainc fod ar yr ochr fuddugol, caswant eu gwanhau yn sylweddol gan y rhyfel, ac yn ystod yr ugain mlynedd dilynol dadfeiliodd eu hymerodraethau yn raddol.

Achosion y Rhyfel[golygu]

Martsio yn y Sgwâr Coch yn 1941.
Gofal: mae'r ohebiaeth yn Saesneg.

Roedd nifer o resymau am y rhyfel hwn. Gwelodd y cyfnod yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf dŵf dwy ideoleg: Comiwnyddiaeth yn dilyn Chwyldro 1917 a ffurfio'r Undeb Sofietaidd, a Ffasgaeth mewn rhai gwledydd yng ngorllewin Ewrop. Daeth Benito Mussolini, arweinydd plaid y Ffasgwyr yn yr Eidal, yn brifweinidog yr Eidal yn 1922. Rheolodd y wlad fel unben.

Gwelwyd tŵf pleidiau adain dde yn yr Almaen yn y cyfnod yma hefyd. Roedd Gweriniaeth Weimar wedi ei ffurfio yn 1919, ond ni lwyddodd i ennill cefnogaeth rhan helaeth o boblogaeth yr Almaen. Dan delerau Cytundeb Versailles, a arwyddwyd ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd yr Almaen wedi colli tua 13% o'i thiriogaeth a'r cyfan o'i threfedigaeth. Trosglwyddyd rhan o'i thiriogaeth i Ffrainc a Gwlad Pwyl, tra cymerodd Prydain nifer o'i threfedigaethau. Roedd llawer o anfodlonrwydd yn yr Almaen ynghylch hyn, yn enwedig ymhilth cyn-filwyr. Tyfodd y syniad nad oedd yr Almaen wedi ei gorchfygu yn filwrol yn y rhyfel, ond yn hytrach wedi ei bradychu gan y gwleidyddion.

Bu dirwasgiad difrifol yn yr Almaen rhwng y ddwy ryfel byd. Roedd hyn yn waeth yn y 1920au nac yng ngweddill Ewrop. Erbyn y 1930au fodd bynnag roedd rhan sylweddol o'r byd datblygedig yn dioddef caledi ac anghydfod gwleidyddol a cymdeithasol y Dirwasgiad Mawr. Ar y chwith, roedd y Comiwnyddion yn ennill tir, tra ar y dde roedd nifer o bleidiau, yn eu plith Plaid y Gweithwyr Sosialaidd Cenedlaethol Almaenig (Almaeneg: Nationalsozialistische Deutsche Arbeiterpartei) dan arweiniad Adolf Hitler. Ar y cyntaf, ni chafodd lawer o lwyddiant etholiadol, ond yn etholiad Gorffennaf 1932 enillodd 37.4% o'r bleidlaid a 230 o seddi yn y Reichstag. Yn etholiad Tachwedd yr un flwyddyn, gostyngodd ei phleidlais ychydig. Ar 30 Ionawr 1933, apwyntiodd yr Arlywydd, Paul von Hindenburg, Hitler yn Ganghellor yr Almaen. Credai y pleidiau adainodde mwy cymedrol y gallent reoli Hitler, ond ni allasant wneud hynny. Wedi i Hindenburg farw, cyhoeddodd Hitler ei fod yn gadael y swydd o Arlywydd yn wag, a chyhoeddodd ei hyn yn arweinydd yr Almaen fel Führer und Reichskanzler.

Y Ddraig Goch yn llarpio Eryr yr Almaen; cerflun yn Rhaeadr i goffau'r meirw.

Bu nifer o ryfeloedd yn ail ran degawd y 1930au. Ym mis Hydref 1935, ymosododd yr Eidal ar Ethiopia, gan feddiannu'r wlad erbyn mis Mai 1936. Dangosodd y rhyfel yma aneffeithiolrwydd Cynghrair y Cenhedloedd; er bod Ethiopia yn aelod, ni allodd y Cynghrair wneud dim effeithiol i'w hamddiffyn rhag yr ymosodiad. Ar 17 Gorffennaf 1936, dechreuodd Rhyfel Cartref Sbaen. Rhoddodd Hitler a Mussolini gefnogaeth filwrol i wrthryfel adain-dde y Cadfridog Francisco Franco, tra rhoddodd yr Undeb Sofietaidd gefnogaeth i'r llywodraeth weriniaethol. Ystyrir y rhyfel yma, a barhaodd hyd 1 Ebrill 1939, yn fath o ragarweiniad i'r Ail Ryfel Byd, gan iddo roi cyfle i'r Almaen, yr Eidal a'r Undeb Sofietaidd brofi eu harfau.

Yn y dwyrain pell, roedd Japan wedi cipio Manchuria oddi ar Tseina yn 1931. Ar 7 Gorffennaf 1937, ymosododd Japan ar Tseina, gyda'r bwriad o feddiannu'r holl wlad. Er i'r Siapaneaid ennill llawr o dir, parhaodd y rhyfel yma hyd nes iddo ddod yn rhan o'r Ail Ryfel Byd ei hyn.

Dechrau'r Rhyfel[golygu]

Dechrau'r Rhyfel yn Ewrop[golygu]

Chamberlain, Daladier, Hitler a Mussolini yng Nghynhadledd München.

Wedi i Hitler ddod i rym, torrodd Gytundeb Versailles trwy yrru'r fyddin i'r Rheindir, oedd i fod i'w chadw yn ardal anfilwrol, ym mis Mawrth 1936. Ychydig fisoedd wedyn, dechreuodd Rhyfel Cartref Sbaen, a chefnogodd Hitler a Benito Mussolini, arweinydd yr Eidal, wrthryfel Francisco Franco.

Yn y blynyddoedd nesaf, dechreuodd Hitler ar ymgyrch i geisio ymestyn tiriogaeth yr Almaen. Un ardal oedd o ddiddordeb arbennig iddo oedd y Sudetenland, lle'r oedd mwyafrif y trigolion yn Almaenwyr ethnig. Ar un adeg, roedd y Sudetenland yn perthyn i Awstria-Hwngari. Ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, daeth yr ardaloedd hyn yn eiddo Tsiecoslofacia. Pan ddaeth Hitler i rym yn yr Almaen, dechreuodd annog trigolion Almaeneg y Sudetenland i alw am gael dod yn rhan o'r Almaen. Datblygodd plaid Natsïaidd gref yno dan arweiniad Konrad Henlein. Cyfarfu Henlein a Hitler ar 28 Mawrth 1938, a dywedwyd wrth Henlein am fynnu hunanlywodraeth i'r Sudetenland a'r hawl i ddilyn polisiau Natsïaidd, gan wybod y byddai hyn yn annerbyniol i lywodraeth Edvard Beneš yn Tsiecoslofacia. Gwnaeth Henlein hyn ar 24 Ebrill. Cyhoeddodd yr Undeb Sofietaidd y byddai'n barod i ymladd i amddiffyn Tsiecoslofacia, ond dim ond os byddai Ffrainc a Phrydain yn ymuno a hi. Ar 29 Medi, arwyddwyd Cytundeb München rhwng Hitler a'i gynghreiriad Benito Mussolini a Neville Chamberlain, prif weinidog y Deyrnas Unedig, a Raymond Daladier, prif weinidog Ffrainc. Daethant i gytundeb y byddai raid i Tsiecoslofacia ildio'r Sudetenland i'r Almaen, gyda'r Almaen i gymyryd meddiant o'r diriogaeth erbyn 10 Hydref. Yn fuan wedyn yn 1939 meddiannodd Hitler y gweddill o Tsiecoslofacia hefyd.

Ar 1 Medi 1939, ymosododd yr Almaen ar Wlad Pwyl. Ar 3 Medi, cyhoeddodd Ffrainc a'r Deyrnas Unedig ryfel yn erbyn yr Almaen. Mae lle i gredu nad oedd Hitler wedi rhagweld hyn, gan nad oeddynt wedi ymateb i'w ymosodiad ar Tsiecoslofacia. Parhaodd yr ymladd yn erbyn y Pwyliaid am bedair wythnos. Meddiannodd yr Almaen ran orllewinol y wlad, tra yn unol â'r cytundeb rhwng Molotov a Ribbentrop. Meddiannodd yr Undeb Sofietaidd ran ddwyreiniol y wlad ar 17 Medi. Ac eithrio un ymosodiad yn ardal y Saar gan Ffrainc ni fu llawer o ymateb gan y cynghreiriad, ac ildiodd y fyddin Bwylaidd ar 6 Hydref 1939.

Dechrau'r Rhyfel yn Asia[golygu]

Ers dechrau'r 20fed ganrif, roedd Japan wedi bod yn ceisio ymestyn ei dylanead tros ddwyrain Asia, yn enwedig dros Tseina. Ar 7 Gorffennaf 1937, ymosododd Japan ar Tsieina, gan ddechrau rhyfel a barhaodd hyd nes iddo ddod yn rhan o'r Ail Ryfel Byd. Roedd Japan wedi datblygu yn bwer economaidd a militaraidd sylweddol, ond roedd yn brin o ddefnyddiau crai hanfodol, yn arbennig olew. Un o amcanion llywodraeth Japan oedd sicrhau cyflenwad diogel o'r rhain. Gyrrwyd y Tsienaid yn ôl yn raddol, ac ym mis Rhagfyr 1937, cipiodd y Japaneaid y brifddinas, Nanjing. Lladdwyd nifer fawr o'r boblogaeth sifil yn Nanjing.

Fel rhan o'r ymgyrch yn erbyn Tsieina, cipiodd Japan dde Indotseina yn 1940. Gwaethygodd hyn ei pherthynas a'r Unol Daleithiau a'r pwerau gorllewinol eraill, ac yn 1941 gwrthodasant gyflenwi olew i Japan. Y bwriad oedd gorfodi Japan i roi'r gorau i'w hymosodiadau yn Tsieina a'r gwledydd cyfagos, ond dewisodd llywodraeth Japan ymosod ar yr Unol Daleithiau a'i chynghreiriad.

Y Rhyfel yn Ewrop[golygu]

Cwymp Ffrainc[golygu]

Milwyr Prydeinig a Ffrengig wedi eu cymeryd yn garcharorion gan yr Almaenwyr, Mehefin 1940
Prif erthygl: Brwydr Ffrainc.

Ni fu fawr o ymladd hyd wanwyn 1940. Ar 9 Ebrill, ymosododd yr Almaen ar Norwy, gan lanio milwyr yn Oslo, Bergen, Trondheim a Narvik, ac ar Denmarc. Ildiodd Denmarc bron yn syth, ac ildiodd Norwy ar 9 Mehefin.

Ar 10 Mai, ymosododd byddin yr Almaen ar yr Iseldiroedd, Gwlad Belg a Lwcsembwrg. Ar yr un dyddiad, daeth Winston Churchill yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig yn lle Neville Chamberlain. Ar 14 Mai, bu cyrch awyr yn erbyn Rotterdam, a'r diwrnod wedyn ildiodd byddin yr Iseldiroedd. Ar 28 Mai, gorfodwyd byddin Gwlad Belg i ildio.

Roedd Ffrainc yn dibynnu ar Linell Maginot fel amddiffynfa yn erbyn yr Almaen, ond llwyddodd yr Almaenwyr i dorri trwodd gerllaw Sedan. Gorfodwyd byddinoedd Ffrainc, a byddin Brydeinig oedd wedi cyrraedd Ffrainc i gynorthwyo, i encilio. Ar 2 Mehefin, llwyddwyd i achub tua 330,000 o filwyr Prydeinig a Ffrengig mewn cychod o Dunkerque. Ar 14 Mehefin, cipiwyd dinas Paris gan y fyddin yr Almaen, ac ar 22 Mehefin ildiodd Ffrainc. Gosodwyd 60% o Ffrainc dan lywodraeth filwrol yr Almaen, tra sefydlwyd gwladwriaeth hanner-annibynnol yn y de-ddwyrain dan Philippe Pétain, gyda Vichy fel prifddinas.

Dilynwyd hyn gan frwydrau yn yr awyr rhwng lluoedd awyr y Deyrnas Unedig a'r Almaen, yn arbennig Brwydr Prydain yn ystod haf a hydref 1940. Ni lwyddodd yr Almaen i ennill yr oruchafiaeth yn yr awyr a fyddai wedi gwneud glanio milwyr ar dir mawr Prydain yn bosibl. Am gryn gyfnod wedi hyn, dim ond yn yr awyr y bu'r brwydro yng ngorllewin Ewrop, gyda chyrchoedd bomio gan lu awyr ar Almaen ar ddinasoedd ym Mhrydain a chyrchoedd gan y llu awyr Prydeinig, ac yn ddiweddarach llu awyr yr Unol Daleithiau, ar ddinasoedd yr Almaen.

Y ffrynt dwyreiniol[golygu]

Ar 22 Mehefin 1941, ymosododd yr Almaen yn ddirybudd ar yr Undeb Sofietaidd mewn ymgyrch a elwid yn Gyrch Barbarossa. Nôd Cyrch Barbarossa oedd meddiannu rhan Ewropeaidd yr Undeb Sofietaidd. Roedd yr ymosodiad yn torri cytundeb heddwch rhwng Adolf Hitler a Stalin. Ar y cychwyn, enillodd yr Almaenwyr fuddugoliaethau mawr, gan lwyddo i amgylchynu nifer fawr o filwyr Rwsiaidd a'u cymyryd yn garcharorion. Fodd bynnag, erbyn mis Hydref roedd yr ymosodiadau Almaenig yn cael llai o lwyddiant, yn rhannol oherwydd y mwd oedd wedi dilyn glawogydd yr hydref. Cyrhaeddodd yr Almaenwyr hyd gyrion Moscow, ond ni allasant fynd ymhellach. Gwrthododd Hitler ganiatâd iddynt i encilio i safleoedd mwy pwrpasol ar gyfer y gaeaf.

Dioddefodd y ddwy ochr golledion trwm, a dilynwyd yr ymgyrch yma gan frwydrau ar raddfa enfawr yn ystod 1942 a 1943. Un o'r brrwydrau tyngedfennol oedd Brwydr Stalingrad. Yn ystod haf 1942, ymosododd Chweched Fyddin yr Almaen dan Friedrich Paulus yn y de. Dechreuodd yr ymgyrch ar 28 Mehefin. Ar 19 Awst gorchymynnwyd cipio dinas Stalingrad. Ar 12 Medi, penodwyd Vasily Chukov i arwain yr amddiffynwyr yn y ddinas. Dros y misoedd nesaf bu brwydro caled o gwmpas ac yn adfeilion Stalingrad. Bu colledion trwm ar y ddwy ochr, a lladdwyd tua 40,000 o drigolion y ddinas.

Montreal Daily Star: "Germany Quit", 7 Mai 1945

Tra roedd yr ymladd yn parhau yn y ddinas, cynlluniodd y cadfridog Georgi Zhukov wrth-ymosodiad i godi'r gwarchae ar Stalingrad ac amgylchynu'r Chweched Fyddin. Dechreuodd yr ymosodiad hwn ar 19 Tachwedd. Ar 23 Tachwedd, gorchymynnodd Hitler nad oedd y Chweched Fyddin i encilio, ond i amddiffyn eu safleoedd hyd angau. Llwyddodd y Fyddin Goch i amgylchynu'r Almaenwyr. Ym mis Chwefror, ildiodd Paulus a gweddillion ei fyddin i'r Fyddin Goch. Dyma'r tro cyntaf i'r Almaen golli brwydr ar raddfa fawr yn yr Ail Ryfel Byd, a Paulus oedd y cadlywydd Almaenig cyntaf erioed i'w gymyryd yn garcharor.

Yn haf 1943, ymosododd yr Almaenwyr eto. Rhwng 4 Gorffennaf a 22 Gorffennaf, ymladdwyd Brwydr Kursk, y frwydr danciau fwyaf erioed. Roedd gan yr Almaenwyr tua 800,000 o droedfilwyr, 3,000 o danciau a 2,000 o awyrennau, tra'r oedd gan y Fyddin Goch tua 1,3000,000 o droedfilwyr, 3,6000 o danciau a 2,400 o awyrennau. Er i'r Fyddin Goch ddioddef mwy o golledion na'r Almaenwyr, methodd yr ymosodiad a thorri trwy eu llinellau amddiffynnol. Dyma'r tro olaf i fyddin yr Almaen fedru ymosod yn strategol ar raddfa fawr ar y ffrynt dwyreiniol, ac o hyn ymlaen fe'u gorfodwyd i encilio yn raddol o Rwsia a thrwy ddwyrain Ewrop. Aeth y Fyddin Goch ymlaen i feddiannu rhan ddwyreiniol yr Almaen. Lladdodd Hitler ei hun ar 30 Ebrill 1945 wrth i danciau'r Fyddin Goch nesáu at ganol Berlin.

Y ffrynt gorllewinol[golygu]

Milwyr Americanaidd a Sofietaidd yn cyfarfod ger afon Elbe

Ar 6 Mehefin 1944, glaniodd milwyr yr Unol Daleithiau, y Deyrnas Unedig a nifer o gynghreiriaid eraill dan Dwight D. Eisenhower ar draethau Normandi yng ngogledd Ffrainc, gan ddefnyddio 6,000 o longau a chychod. Glaniodd 160,000 o filwyr ar y diwrnod cyntaf, ac erbyn diwedd Awst roedd y nifer wedi cynyddu i 3 miliwn. Er eu bod yn llawer mwy niferus na'r milwyr Almaeneg oedd yn ei gwrthwynebu, bu ymladd caled am y ddau fis nesaf. Tua diwedd Gorffennaf, llwyddodd y Cynghreiriaid i dorri trwy linellau amddiffynnol y fyddin Almaenig, a dechreuasant ennill tir yn gyflymach. Cipiwyd Paris oddi ar yr Almaenwyr ar 25 Awst 1944. Tua'r adeg yma, ymddangosai fel bod diwedd y rhyfel yn nesáu, ond ym mis Medi methodd Cyrch Market Garden, ymosodiad oedd wedi ei fwriadu i groesu afon Rhein yn Arnhem. Gwrth-ymosododd yr Almaenwyr yn yr Ardennes ym mis Rhagfyr, ond er iddynt gael cryn lwyddiant yn y dyddiau cyntaf, fe'u gorfodwyd i encilio. Ym mis Mawrth 1945, croesodd y Cynghreiriaid afon Rhein ger Wesel, ac ar 25 Ebrill, cyraeddasant afon Elbe a chyfarfod y Fyddin Goch.

Daeth y rhyfel i ben yn Ewrop ar 18 Mai 1945 pan ildiodd yr Almaen.

Y Rhyfel yn y Môr Canoldir a Gogledd Affrica[golygu]

Erwin Rommel

Y Balcanau[golygu]

Roedd Albania eisoes wedi ei meddiannu gan yr Eidal yn Ebrill 1939. Roedd Mussolini yn awyddus i efelychu llwyddiannau'r Almaen yn 1940, ac ar 28 Hydref 1940, ymosododd yr Eidalwyr ar Wlad Groeg. Cawsant beth llwyddiant ar y cychwyn, ond bu raid iddynt encilio yn wyneb gwrth-ymosodiad y Groegiaid, a ddechreuodd ar 14 Tachwedd. Ymunodd Hwngari, Rwmania a Bwlgaria a'r Axis, ac ymosododd yr Almaenwyr ar Wlad Groeg o Bwlgaria. Er gwaethaf cymorth Prydeinig i'r Groegwyr, cipiwyd Athen gan yr Almaenwyr ar 27 Ebrill 1941, ac ym mis Mai cipwyd ynys Creta.

Gogledd Affrica a'r Eidal[golygu]

Ar 13 Medi 1940, ymosododd mwy na 200,000 o filwyr yr Eidal ar yr Aifft, gyda'r bwriad o gael rheolaeth tros Gamlas Suez a meysydd olew'r Dwyrain Canol. Gorchfygwyd hwy mewn nifer o frwydrau gan y fyddin Brydeinig, a bu raid i Mussolini alw ar Hitler am gymorth. Gyrrwyd yr Afrikakorps i Ogledd Affrica, a than Erwin Rommel gyrrodd y Prydeinwyr yn ôl am gyfnod. Ni allai'r Almaen ei atgyfnerthu, fodd bynnag, ac roedd yn brin o olew. Yn 1942, gorchfygwyd yr Afrikakorps gan y Prydeinwyr dan Bernard Montgomery ym mrwydr El Alamein. Glaniodd yr Americanwyr yn Algeria a Morocco, ac yn raddol gyrrwyd yr Almaenwyr o Ogledd Affrica. Ym mis Mai 1943, ildiodd yr Almaenwyr ac Eidalwyr olaf yn Nhunisia.

Gwnaeth hyn ymosodiad ar yr Eidal yn bosibl. Ar 10 Gorffennaf 1943, glaniodd y cynghreiriaid ar ynys Sicilia, ac ar 3 Medi, gallasant groesi Culfor Messina i'r tir mawr. Wedi naw mis o ymladd, cipiwyd dinas Rhufain ar 4 Mehefin 1944. Ildiodd yr Eidal, ac yna cyhoeddodd ryfel yn erbyn yr Almaen. Diarfogwyd byddin yr Eidal gan yr Almaenwyr, a pharhaodd yr ymladd yng ngogledd yr Eidal. Daeth y ffrynt yma yn llai pwysig wedi i'r Cynghreiriaid lanio yn Normandi, ond parhaodd yr ymladd yma hyd fis Mai, 1945.

Y Rhyfel yn y Cefnfor Tawel ac Asia[golygu]

Yr ymosodiad niwclear ar Nagasaki

Ar 7 Rhagfyr 1941, ymosododd Japan ar nifer o dargedau, yn eu plith cyrch awyr ar lynges yr Unol Daleithiau yn Pearl Harbor. Yr un pryd, glaniwyd milwyr yn Malaya, oedd yn drefedigaeth Brydeinig. Pedwar diwrnod yn ddiweddarach, cyhoeddodd yr Almaen ryfel ar yr Unol Daleithiau, i gefnogi Japan. Ar 10 Rhagfyr, suddodd llu awyr Japan y llongau rhyfel Prydeinig Prince of Wales a Repulse, ac yn fuan wedyn syrthiodd Singapore i fyddin Siapan. Ym mis Ionawr 1942, ymosododd Japan ar Burma, Ynysoedd Solomon ac India'r Dwyrain Iseldiraidd.

Dechreuodd y llanw droi gyda buddugoliaeth llynges yr Unol Daleithiau dros lynges Japan ym Mrwydr Midway rhwng 4 a 7 Mehefin 1942. Dioddefodd llynges Japan golledion mawr, ac o hyn ymlaen llwyddodd yr Unol Daleithiau i gipio ynysoedd y Cefnfor Tawel oddi arnynt fesul un, yn dilyn brwydro ffyrnig. Yn Awst 1942, dechreuodd ymladd ffyrnig rhwng byddinoedd America a Japan am feddiant o ynys Guadalcanal, un o Ynysoedd Solomon. Parhaodd yr ymladd am chwe mis, a lladdwyd dros 40,000; yn y diwedd cafodd yr Americanwyr y fuddugoliaeth.

O hyn ymlaen, gotfodwyd y Siapaneiad i encilio'n raddol. Ar 19 Hydref 1944, gwnaeth llu awyr Japan yr ymosodiad Kamikaze cyntaf ar lynges yr Unol Daleithiau. Yr ymosodiadau hyn, byddai'r awyrennwr, mewn awyren oedd wedi ei llenwi a deunydd ffrwydrol, yn ceisio taro llong â'r awyren, gan ei ladd ei hun er mwyn niwedio'r gelyn. Cafodd y tactegau hyn beth llwyddiant, ond yn Chwwefror - Mawrth 1945, cipiodd yr Americanwyr Iwo Jima, yna rhwng Ebrill a Mehefin, cipiasant Okinawa. Roedd y colledion yn yr ymladd yma tua 20,000 o Americanwyr a 130.000 o Siapaneaid.

Diwedd y Rhyfel[golygu]

Yr Ymerawdwr Hirohito

Lladdodd Adolf Hitler ei hun ar 30 Ebrill 1945 wrth i danciau'r Fyddin Goch nesáu at ganol Berlin. Olynwyd ef fel Canghellor yr Almaen gan y Llyngesydd Doenitz. Ychydig ddyddiad yn ddiweddarach, ar 7 Mai, ildiodd yr Almaen yn ddiamod i'r Cynghreiriad. Rhannwyd yr Almaen yn bedwar rhanbarth dan feddiant milwrol yr Unol Daleithiau, Prydain, Ffrainc a'r Undeb Sofietaidd. Yn 1949, unwyd y rhanbarthau oedd dan reolaeth y pwerau gorllewinol fel Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, gyda Konrad Adenauer fel Canghellor. Daeth y rhan oedd ym meddiant yr Undeb Sofietaidd yn wladwriaeth ar wahân, Gweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen. Nid adunwyd y ddwy ran hyd 1990. Collodd yr Almaen diriogaethau helaeth yn y dwyrain i Wlad Pwyl, gyda Gwlad Pwyl yn colli rhai o'i thiriogaethau dwyreiniol hithau i'r Undeb Sofietaidd.

Araith gan Harry Trueman yn cyhoeddi ildiad
yr Almaen ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd.

Problemau wrth chwarae'r y ffeil hon? Gweler cymorth gyda ffeiliau sain a fideo.

Parhaodd y rhyfel yn Asia a'r Cefnfor Tawel am rai misoedd. Gollyngodd yr Unol Daleithiau fom atomig ar ddinas Hiroshima ar 6 Awst 1945, yna un arall ar ddinas Nagasaki ar 9 Awst. Lladdwyd tua 165,000 o bobl yn yr ymosodiadau, a bu farw tua 145,000 arall yn yr wythnosau dilynol o effeithiau'r bomiau. Hefyd ar 9 Awst, ymosododd byddin yr Undeb Sofietaidd ar Manchuria, oedd ar y pryd ym meddiant Japan. Cyhoeddodd lywodraeth Japan ei bod yn barod i ildio ar 15 Awst, ac arwyddwyd y ddogfen ar 2 Medi. Meddiannwyd Japan yn filwrol gan yr Unol Daleithiau am gyfnod wedi iddi ildio, a dienyddiwyd rhai o uchel swyddogion y lluoedd arfog wedi eu cael yn euog o droseddau thyfel, ond gadwyd i'r ymerawdwr Hirohito barhau fel pennaeth y wladwriaeth.

Colledion[golygu]

Adfeilion Dresden yn 1945

Amcangyfrifir i tua 60 miliwn o bobl golli eu bywydau o ganlyniad i'r Ail Ryfel Byd, y cyfanswm uchaf o unrhyw ryfel mewn hanes. Yn wahanol i'r Rhyfel Byd Cyntaf, roedd canran uchel o'r colledion hyn ymysg y boblogaeth sifil. Yr Undeb Sofietaidd a ddiddefodd fwyaf o golledion, gyda rhwng 8 a 10 miliwn o golledion milwrol, yn cynnwys nifer fawr o garcharorion rhyfel a fu farw yng ngwersylloedd crynhoi yr Almaen, a 10 - 15 miliwn o golledion sifil. Collodd Tseina yn agos at 20 miliwn o'i phoblogaeth i gyd, y mwyafrif ymhlith y boblogaeth sifil. Roedd colledion milwrol yr Almaen dros 5 miliwn, y mwyafrif o'r rhain ar y ffrynt dwyreiniol., a cholledion milwrol Japan dros 2 filiwn.

Roedd y colledion sifil yn cynnwys pobl a laddwyd mewn cyrchoedd awyr. Ymhlith y cyrchoedd awyr a achosodd fwyaf o golledion, roedd cyrchoedd awyr Prydain ac America ar ddinasoedd Hamburg a Dresden yn yr Almaen, a'r ymosodiadau atomig ar Hiroshima a Nagasaki. Lladdwyd miliynau yng ngwesylloedd yr Almaen (gweler "Yr Holocost" isod), a bu farw miliymau eraill o newyn o ganlyniad i'r rhyfel mewn gwledydd fel Tseina ac India.

Yr Holocost[golygu]

Prif erthygl: Yr Holocost.
Y fynedfa i Auschwitz-Birkenau yn 1945

Yr Holocost yw'r term a ddefnyddir am ladd tua chwe miliwn o Iddewon Ewropeaidd yn ystod yr Ail Ryfel Byd, fel rhan o raglen fwriadol o hil-laddiad gan y Natsïaid. Lladdwyd nifer fawr o bobloedd a grwpiau eraill gan y Natsïaid hefyd, yn cynnwys y Roma, carcharorion rhyfel o'r Undeb Sofietaidd, pobl hoyw, pobl anabl, Tystion Jehovah ac eraill. Mae rhywfaint o anghytundeb ymysg ysgolheigion a ddylid cynnwys y rhain yn y term "Holocost", neu a ddylid ei ddefnyddio am yr Iddewon yn unig.

Dechreuodd yr erlid ar yr Iddewon a grwpiau eraill yn raddol wedi i'r Natsïaid ddod i rym yn yr Almaen, ond dim ond wedi dechrau'r rhyfel y bu lladd ar raddfa fawr. Erbyn y 1940au roedd gwersylloedd difa megis Auschwitz a Treblinka wedi eu sefydlu, lle lladdwyd miliynau trwy ddefnyddio nwy a dulliau eraill. Credir i 1.4 miliwn o bobl gael eu lladd yn Auschwitz yn unig, a thuag 800,000 yn Treblinka. Cysylltir y rhaglen yma yn arbennig â Heinrich Himmler a'r SS.

Effeithiau'r Rhyfel[golygu]

Y cyhuddedig ym mhrif brawf Nuremberg. Ar y chwith: Hermann Goering, Rudolf Hess, Joachim von Ribbentrop, Wilhelm Keitel. Ar y dde: Karl Doenitz, Erich Raeder, Baldur von Schirach a Fritz Sauckel.

Roedd nifer o'r prif arweinwyr megis Hitler ei hun, Heinrich Himmler a Joseph Goebbels wedi ei lladd ei hunain cyn cael eu dal gan y cyngheiriaid neu yn fuan wedyn, ac ni wyddai neb beth oedd hanes Martin Bormann. Cynhaliwyd cyfres o achosion llys gan y Cynghreiriaid, yn enwedig Profion Nuremberg, yn erbyn y gweddill o arweinwyr llywodraeth Natsiaidd yr Almaen. Dedfrydwyd nifer ohonynt i farwolaeth, a charcharwyd eraill am wahanol gyfnodau. Ystyrir y rhain yn ddatblygiad pwysig ym maes cyfraith ryngwladol.

O ganlyniad i'r rhyfel hwn daeth ynysiaeth yr Unol Daleithiau i ben, ail-adeiladwyd yr Almaen a Siapan fel gwledydd diwydiannol pwysig iawn, daeth yr Unol Daleithiau a'r Undeb Sofietaidd yn ddwy arch bŵer, a sefydlwyd y Cenhedloedd Unedig er mwyn ceisio rhwystro rhyfel byd yn y dyfodol. Yn Tseina, cipiwyd gryn gan y Comiwnyddion dan Mao Zedong, ac yn 1949 cyhoeddodd Mao, a oedd erbyn hynny'n Gadeirydd y Blaid Gomiwnyddol, Weriniaeth Pobl Tseina. Roedd Prydain a Ffrainc wedi eu gwanhau yn fawr o ganlyniaid i'r rhyfel, ac yn y blynyddoedd nesaf dechreuasant golli gafael ar eu hymerodraethau. Daeth India yn annibynnol yn 1947. Un arall o ganlyniadau'r rhyfel oedd ffurfio gwladwriaeth Israel.

Yn fuan datblygodd cystadleuaeth rhwng yr Undeb Sofietaidd a gwledydd Cytundeb Warsaw ar y naill ochr a'r Unol Daleithiau a gwledydd NATO ar y llall a elwir y Rhyfel Oer. Parhaodd o tua 1945 hyd i tua 1990.

Gweler hefyd[golygu]